Skip to content

Ymweliad Y Prif Weinidog â Fiet-Nam – 4-6 Ebrill 2005

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Y Prif Weinidog
Roedd fy ymweliad â Fiet-nam o 4 hyd 6 Ebrill, er mor fyr, yn gyfle i gwrdd â chynrychiolwyr o'r byd busnes a'r llywodraeth yn Hanoi ac yn Ninas Ho Chi Minh.

Fy ymrwymiad cyntaf oedd ymweld â Iard Longau Nam Trieu yn Hai Phong i weld drosof fy hun ddatblygiad y prosiect rhwng cwmni Graig Shipping o Gaerdydd a chwmni adeiladu llongau Vianshin yn Fiet-nam.  Nod y contract gwerth UD$400 miliwn yw adeiladu 15 o longau newydd ac mae hefyd yn bartneriaeth bwysig rhwng cwmni o Gymru a sefydliad adeiladu llongau cenedlaethol Fiet-nam.  Mae cwmni Graig wedi archebu llongau deugorff o faint canolig ar gyfer cludo nwyddau ar raddfa fawr, o'u dyluniad eu hunain, iddynt hwy eu hunain ac ar ran perchnogion llongau eraill. Mae maint yr archeb yn golygu bod modd sefydlu yr hyn ellir ei alw'n llinell gynhyrchu ar gyfer adeiladu llongau.  Mae gan Graig gynrychiolwyr ar y safle i reoli'r holl brosiect.

Ychydig wythnosau yn ôl, cefais y pleser o gyfarfod Dr Nguyen Van An, Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Fiet-nam a'i blaid yn ystod ei ymweliad â Chymru.  Tra roeddwn yn Fiet-nam, achubais ar y cyfle i ymweld â Dr Van An.  Cynhaliwyd cyfarfodydd eraill yn Hanoi gyda'r Dirprwy Weinidog Masnach, y Dirprwy Brif Weinidog a'r Gweinidog dros Gynllunio a Buddsoddi. Yn ogystal, cefais drafodaeth hir â'r Gweinidog Iechyd am oblygiadau mwtadiadau posibl firws ffliw'r adar, yn bennaf, a allai achosi'r pandemig o'r ffliw sy'n codi ofn ar epidemolegwyr ledled y byd.  

Yn Ninas Ho Chi Minh, cefais gyfarfod byr â myfyrwyr o Fiet-nam a oedd wedi astudio yng Nghymru. Yna yn swyddfeydd y Cyngor Prydeinig, cymerais ran mewn sesiwn holi ac ateb gyda phobl ifanc a oedd â diddordeb clywed am Gymru a dysgu Saesneg.

Cynhaliwyd cyfarfodydd eraill â busnesau a sefydliadau cymorth i fusnesau.  Yn ystod y cyfarfodydd busnes cafwyd trafodaethau â GlaxoSmithKline am gynhyrchion fferyllol sy'n cael eu marchnata yn Fiet-nam.  Yn dilyn hyn, cynhaliwyd cyfarfod ag Atlas Industries sy'n cyflogi penseiri a pheirianwyr strwythurol, sy'n dylunio ysgolion a chynlluniau ysbytai ar gyfer prosiectau Menter Cyllid Preifat yn bennaf.  Cafodd Gwesty Future Inns ym Mae Caerdydd ei ddylunio yn y modd hwn hefyd.

Yn ogystal, cymerodd naw cwmni o Gymru ran mewn taith fasnach o amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys awyrennau, cyfarpar uwchsain, cynghori busnesau, hyfforddi rheolwyr, asesu risg mewn diwydiannau cemegol, systemau diogelwch a TG, cynhyrchu mêl arbenigol a hyrwyddo cynhyrchion a gwasanaethau o Gymru.  Mae'r adroddiadau cynnar gan gynrychiolwyr y daith fasnach wedi bod yn gadarnhaol iawn. Roedd y rhai a oedd ar y Daith Fasnach wedi'u siomi ar yr ochr orau gan gyfradd y twf yn Fiet-nam a'r holl gyfleoedd busnes a oedd ar gael yno. Yn ôl amcangyfrifon cynnar, nodwyd cyfleoedd busnes gwerth mwy na £2.5 miliwn.  

Roedd pob cyfarfod a gefais yn gadarnhaol iawn. Gwelais fod Fiet-nam yn wlad o 82 miliwn o bobl, y mae hanner o'r rhain o dan 25 oed, sy'n symud ymlaen yn sgil economi sy'n tyfu.  O ran bod yn barod ar gyfer cyfleoedd busnes a masnach, er bod Fiet-nam tua 10 mlynedd y tu ôl Tsieina yn yr agenda newid, mae bellach yn symud yn gyflym i'r cyfeiriad hwnnw.

Mae prifddinas y wlad unedig wedi newid yn ôl i'r brifddinas adeg y drefedigaeth Ffrengig, sef Hanoi, sydd â phoblogaeth o 5 miliwn.  Ond prifddinas y byd busnes yw Dinas Ho Chi Minh heb os, sef yr hen Saigon, sydd â phoblogaeth o 7  miliwn.

Agwedd allweddol ar berthynas fasnachol a gwleidyddol Cymru a Fiet-nam yw ein bod yn creu'r cysylltiadau yn awr, wrth i economi a chymdeithas y wlad ddechrau tyfu o ddifrif.  Bydd creu cysylltiadau yn awr yn talu ar ei ganfed yn y dyfodol.