Skip to content

Ymateb i adolygiad polisi'r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes ar Anghenion Addysgol Arbennig “Adnabod ac Ymyrryd yn Gynnar”

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

Mae'r ymatebion i'r argymhellion yn yr Adroddiad wedi'u nodi isod. Mae'r argymhellion yn dilyn penawdau a threfn rifo'r Adroddiad.

Gweithio Aml-asiantaeth

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:
4.1 Dylai Llywodraeth y Cynulliad  gyhoeddi canllawiau i'r byrddau iechyd lleol ac awdurdodau addysg lleol i'w hannog i ddefnyddio Deddf Addysg 1999 i gomisiynu gwasanaethau ar y cyd a gwneud trefniadau i gyfuno cyllidebau. [3.61]


Derbyn

Cyhoeddwyd canllawiau ar y Fframwaith Partneriaeth Trefniadau Hyblyg yn 2000 ac maent ar gael i bob corff statudol a chyrff eraill, gan gynnwys y Byrddau Iechyd Lleol (BILlau) a'r Awdurdodau Addysg Lleol (AALlau). Maent ar wefan y Cynulliad yn:

http://www.wales.gov.uk/subisocialpolicy/content/newsite/incflexpart-e.pdf

Yn ogystal, mae'r Cynulliad yn cynnal gweithdai cenedlaethol blynyddol i Gymru gyfan ar weithio ar y cyd, o dan Ddeddf 1991, er mwyn hybu comisiynu ar y cyd, cyfuno cyllidebau a rhannu arferion da. Bydd y grant hyblygrwydd ar gyfer gweithio ar y cyd yn dirwyn i ben ym mis Mawrth 2006 a bydd yr arian ar gael wedyn drwy'r Setliad Refeniw Llywodraeth Leol. Serch hynny, bydd y Cynulliad yn parhau i hyrwyddo gwaith ar y cyd ac mae'n bwriadu cyhoeddi canllawiau newydd yn 2007 yn unol â'r meini prawf ar gyfer ymadael â'r grant ac i gynnwys datblygiadau ehangach ym maes comisiynu ar y cyd. Mae yna eisoes enghreifftiau da o brosiectau cydweithredol o dan y trefniadau gweithio ar y cyd.

Yn y gwanwyn, bydd y Cynulliad yn ymgynghori ar ganllawiau o dan Ddeddf Plant 2004 ar y trefniadau newydd i gryfhau partneriaethau, cyfuno cyllidebau, a chynllunio a chomisiynu gwasanaethau plant. Mae Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol y Cynulliad, ynghyd â'r Arolygiaeth Gofal Cyhoeddus, yn cydweithio â'u partneriaid mewn gweithdai hyfforddi ar Raglen Datblygu Comisiynu i Gymru, sy'n canolbwyntio ar fodel comisiynu integredig. Dylai'r mesurau hyn ddarparu mwy o gyfleoedd inni oresgyn yr hyn sy'n atal cydweithio a disgrifio cyfrifoldebau’r asiantaethau i gydweithio a chomisiynu ar y cyd yn effeithiol.  

Yn ogystal, bydd prosiectau peilot y gwasanaethau lleferydd ac iaith, a gaiff eu sefydlu ym mis Ebrill 2005 o dan Ddeddf Iechyd 1999 (Trefniadau Partneriaeth), yn rhoi mwy o gyfleoedd ar gyfer comisiynu ar y cyd a chyfuno cyllidebau. Caiff cydgysylltydd ei benodi o fis Chwefror 2005 ymlaen i weithio yn y sector iechyd ac addysg i sefydlu trefniadau comisiynu ar y cyd yn lleol ar gyfer y gwasanaethau lleferydd ac iaith. Bydd gofyn i'r AALlau, y BILlau ac Ymddiriedolaethau'r GIG gydweithio o dan drefniant partneriaeth strategol i asesu'r anghenion lleol a chytuno ar y ffordd fwyaf effeithiol o fynd i'r afael â hwy. Bydd pob carfan leol sydd â diddordeb yn cael ei chynrychioli ar y bartneriaeth strategol, gan gynnwys darparwyr gwasanaethau, rhieni a gofalwyr.


Goblygiadau Ariannol

Telir am gost y broses ymgynghori o dan Ddeddf Plant 2004 o gyllidebau presennol.

Bydd swydd y cydgysylltydd yn cael ei hariannu ar y cyd o’r cyllidebau iechyd ac addysg presennol. Cafodd mwy o gyllid ei neilltuo ar gyfer AALlau yn Llinellau Gwariant y Gyllideb ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar ac Anghenion Addysgol Arbennig (AAA), i dalu am ddarpariaeth integredig, prosiectau peilot ac am eu gwerthuso. Bydd £500,000 yn cael ei roi i'r AALlau yn 2005-2006 i gyfrannu at y gyllideb ar y cyd. Yn dilyn gwerthusiad mewnol o'r prosiectau peilot, bydd £1 miliwn arall ar gael ar gyfer 2006-2007 a £1.6 miliwn ar gyfer 2007-2008 i sicrhau bod pob rhan o Gymru ar ei hennill. 


 Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:
4.2 Os na wneir newidiadau o'r fath o ran comisiynu ar y cyd fel mater o frys, dylai Llywodraeth y Cynulliad roi ystyriaeth bellach i ddiwygio deddfwriaeth sylfaenol i gael gwared ar yr anghysondeb gyda’r prif gyfrifoldeb a'r cyfrifoldeb terfynol. [3.62]

Derbyn

Bydd newidiadau i ddeddfwriaeth sylfaenol yn cael eu hystyried ar ôl gwerthuso’r prosiectau peilot. Byddai newidiadau i'r ddeddfwriaeth sylfaenol yn debygol o effeithio ar yr holl fframwaith statudol ar gyfer AAA y bydd y Pwyllgor yn ei ystyried yn ystod ail gam yr adolygiad.

Goblygiadau Ariannol

Dim ar hyn o bryd - yn aros i gael canlyniad y gwerthusiad o brosiect peilot y gwasanaethau lleferydd ac iaith a'r adolygiad o'r fframwaith statudol ar gyfer AAA.

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:
4.3 Dylai Llywodraeth y Cynulliad gyhoeddi canllawiau i'r byrddau iechyd lleol a'r awdurdodau addysg lleol, yn eu hannog i ddefnyddio mwy ar Ddeddf Iechyd 1999 a'r Grant Hyblygrwydd Arbennig, i ariannu prosiectau AAA ar y cyd (3.63).

Derbyn

Gweler 4.1


Hyfforddi athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

4.4 Dylai Llywodraeth y Cynulliad, yn ei hadolygiad arfaethedig o hyfforddiant cychwynnol athrawon, roi sylw arbennig i'r angen am well dealltwriaeth o AAA ymhlith pob athro sydd newydd gymhwyso; ac yn arbennig y technegau ar gyfer adnabod AAA yn gynnar.  [3.31]


Gwrthod, ond ystyried y mater yn ystod yr adolygiad o ofynion y cwrs HCA

Ni fydd adolygiad Llywodraeth y Cynulliad o'r ddarpariaeth hyfforddiant cychwynnol athrawon (HCA) yn ymwneud â chynnwys HCA (hy y gofynion ar gyfer cyrsiau HCA).  Bydd yr adolygiad yn ystyried y ffordd rydym yn amcangyfrif y galw yn y dyfodol am athrawon, a'r llwybrau i ennill Statws Athro Cymwys, er mwyn i ni allu darparu cyflenwad o athrawon newydd gymhwyso o safon sy'n diwallu anghenion ysgolion Cymru. Mae agweddau penodol ar HCA, megis gofynion y cwrs, y tu hwnt i gylch gorchwyl yr adolygiad.

Felly, nid oes modd gweithredu'r argymhelliad gyda'r geiriad fel ag y mae.  Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wrthi'n adolygu'r safonau ar gyfer Statws Athro Cymwys a'r gofynion statudol ar gyfer cyrsiau HCA, a bydd yr ymateb i'r argymhelliad hwn yn cael ei ystyried yng nghyd-destun yr adolygiad hwnnw.

Goblygiadau Ariannol.

Does dim ar hyn o bryd

Gweithio Aml-asiantaeth

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

4.5 Dylai Llywodraeth y Cynulliad roi canllawiau i awdurdodau addysg lleol i annog darparu gwasanaethauAAA, yn unol â'r Cod Ymarfer, ar sail ranbarthol, gan ddefnyddio pwerau Deddf Addysg 2002.  [3.65]


Derbyn

Gwyddom ei bod yn annodd i rai AALlau gynnal amrywiaeth o wasanaethau AAA. Dyma pam y cafodd Grwp Llywio Cenedlaethol ar gyfer AAA ei sefydlu ar gyfer Cymru gyfan. Mae Deddf Addysg 2002 yn gwneud darpariaethau i Gymru'n unig sy’n caniatáu ar gyfer cydweithredu rhanbarthol, nid yn unig o ran nwyddau ond hefyd o ran gwasanaethau, megis athrawon teithiol. Dyma’r camau a gymerwyd hyd yma:

  • Dyrannwyd £2 filiwn i ailddatblygu Ysgol Plas Brondyffryn i ddod yn rhan o ganolfan ragoriaeth ranbarthol yn y Gogledd ar gyfer Awtistiaeth.
  • Cymeradwyodd y Cynulliad gyllid i greu cyfleuster rhanbarthol yn Ysgol Uwchradd y Tyllgoed ar gyfer siroedd Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Tor-faen a Chasnewydd. Bydd y cyfleuster yn darparu adnodd 12 lle ar gyfer plant sydd â syndrom asperger.

Bydd canllawiau drafft yn cael eu cyhoeddi i ymgynghori arnynt â'r holl AALlau yn ystod haf 2005, yn sgil archwiliad o'r ddarpariaeth ledled Cymru.  Bydd rheoliadau drafft yn cael eu cyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn.  


Goblygiadau Ariannol

Mae £12 miliwn ar gael ar hyn o bryd i ddatblygu darpariaeth ranbarthol.


Hyfforddi athrawon a datblygiad proffesiynol parhaus

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:
4.6  Dylai Llywodraeth y Cynulliad gyhoeddi canllawiau i golegau hyfforddi athrawon i wella hyfforddiant cychwynnol athrawon o ran adnabod pa blant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig. Dylai'r colegau anelu at ddarparu hyfforddiant AAA cyffredinol i bob myfyriwr sy'n hyfforddi i fod yn athro, a mwy o gyrsiau ar lefel uwch ar gyfer y rheini sydd am arbenigo mewn canghennau arbennig o AAA. [3.32]


4.6 Derbyn yn rhannol

Mae Llywodraeth y Cynulliad ar hyn o bryd yn adolygu Cylchlythyr 13/98 (Gofynion Cyrsiau HCA).  Mae'r newidiadau arfaethedig yn ddau ddarn o is-ddeddfwriaeth sydd i'w gwneud o dan Reol Sefydlog 29, y naill ar gyfer Safonau'r Statws Athrawon Cymwys (SAC) a'r llall i gynnwys Gofynion y Cwrs HCA.  Nid yw'r Cynulliad yn nodi'n benodol beth yw cynnwys y cyrsiau HCA ac felly ni all roi arweiniad ar y cynnwys fel rhan o ofynion cyffredinol HCA.

Bydd y Safonau SAC yn ei gwneud hi'n ofynnol i fyfyrwyr ddangos eu bod yn deall eu cyfrifoldebau o dan God Ymarfer AAA (felly hefyd i ddarparwyr HCA gynnwys hynny eu cyrsiau), ac yn gwybod sut i ofyn cyngor arbenigwyr ar fathau llai cyffredin o anghenion addysgol arbennig.  Bydd y Safonau'n berthnasol i'r rhai a hyfforddwyd mewn sefydliadau HCA (Sefydliadau Addysg Uwch) yn ogystal â'r rhai sy'n cymhwyso trwy lwybrau seiliedig ar gyflogaeth.  Mae HCA wedi'i gynllunio i roi'r wybodaeth sydd ei hangen ar fyfyrwyr i'w galluogi i ddysgu.  Nid oes llawer o amser i arbenigo, yn enwedig ar lwybrau i fynd i ddysgu sy'n seiliedig ar gyrsiau ôl-radd a chyflogaeth.

Rydym ni o'r farn ei bod yn well i athrawon arbenigo mewn AAA pan fyddant wedi cwblhau eu hyfforddiant cychwynnol a'u blwyddyn gynefino. Mae nifer o gyfleoedd ar gael i athrawon ar lefel ôl-radd o fewn y sefydliadau ee M.A., M.Ed, Diploma a thystysgrif i raddedigion. Mae cyrsiau arbenigol ar gyfer y cymwysterau gorfodol mewn Nam ar y Clyw a Nam ar y Golwg ar gael yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Casnewydd. Mae llawer o'r AALlau yng Nghymru yn cydweithio â sefydliadau addysg uwch ac yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau i athrawon sydd am gynyddu eu gwybodaeth am AAA. I'r perwyl hwn, byddwn yn barod i ymgynghori â sefydliadau addysg uwch i weld beth fyddai eu hymateb hwy i ddull gweithredu mwy cydgysylltiedig lle byddant yn gwneud darpariaeth o'r fath.

Rydym wedi sefydlu grwp gorchwyl o holl Sefydliadau Addysg Uwch Cymru i ystyried materion Datblygiad Proffesiynol Parhaus ym maes AAA.  Mae'r grwp wedi cydweithio â'r Cynulliad i ddatblygu cwrs e-ddysgu a fydd yn rhoi cyfle cyfartal o ran hyfforddiant i'r holl athrawon a Chynorthwywyr Cymorth Dysgu yng Nghymru. Bydd cwrs o'r fath yn sail ar gyfer hyfforddiant AAA yn y dyfodol a gellir ei ddefnyddio fel model ar gyfer cyrsiau eraill yn ymwneud â grwpiau AAA llai cyffredin. Gallai'r cwrs hefyd fod o werth i athrawon sy'n gweithio yn Lloegr ac sydd am ddychwelyd i fyw a gweithio yng Nghymru.

Bydd y cwrs hwn yn helpu athrawon a chynorthwywyr cymorth dysgu i weithio'n fwy effeithiol gyda disgyblion AAA a chodi ymwybyddiaeth am y ffactorau sy'n ymwneud â datblygu ysgol gynhwysol. Bydd y cwrs yn ddwyieithog.

Dyma nodau'r Cwrs:
gwella dealltwriaeth y rhai sy’n cymryd rhan am ganfyddiadau sy’n newid am AAA a thermau cysylltiedig ee dull gweithredu'r ysgol gyfan, 'cynhwysiant', cydweithredu, hawliau'r anabl;
gwella dealltwriaeth y rhai ar y cwrs am y pedwar categori o AAA a ddisgrifiwyd yng Nghod Ymarfer Cymru (2001) a’u golybiadau i arferion y dosbarth;
cynorthwyo'r rhai ar y cwrs i ymateb mewn ffordd broffesiynol i amrywiaeth o wahanol ddisgyblion AAA yng nghyd-destun:
(i) Adnabod, asesu a chynllunio;
(ii) Sicrhau'r mynediad gorau posibl at y cwricwlwm;
(iii) Addysgu a dysgu gwahaniaethol;
(iv) Mabwysiadu arferion gwaith cydweithredol;
(v) Hybu datblygiad ac ymddygiad positif yn gymdeithasol ac yn emosiynol.


Goblygiadau Ariannol

Mae modd cadw at y gofyniad bod darparwyr HCA yn sicrhau bod yr hyfforddeion yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau mewn perthynas ag AAA heb adnoddau ychwanegol.  

Amcangyfrifir bod costau cychwyn y cwrs e-ddysgu'n £100,000 a gellir talu'r costau hyn o gyllidebau sydd eisoes yn bodoli.


Adnoddau Dynol

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:
4.7 Dylai Llywodraeth y Cynulliad gyhoeddi canlyniadau'r ymgynghoriad diweddar a pharatoi amserlen ar gyfer gweithredu argymhellion adroddiad SALTAG, 'Gweithio gyda'n Gilydd', ar wasanaethau lleferydd ac iaith ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion addysgol arbennig. [3.39]


Derbyn

Bydd hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Cymru'n Dysgu erbyn diwedd Chwefror 2005.  Bydd Cynllun Gweithredu'n cael ei ddatblygu i fwrw ymlaen â'r argymhellion y cytunwyd arnynt.  Rydym wrth ein boddau â'r ymateb i'r ddogfen ymgynghori ar y cyd 'Gweithio gyda'n Gilydd' a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2003.  Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad wrthi'n cael eu hystyried a byddant yn sail i'r canllawiau ar ddarparu gwasanaethau lleferydd ac iaith yn y dyfodol ar gyfer plant a phobl ifanc 0 - 19 oed ledled Cymru.  

Rydym eisoes wedi cychwyn gweithio ar rai o'r argymhellion yn yr adroddiad:

  • bydd prosiectau comisiynu ar y cyd sy’n defnyddio cyllidebau cyfun yn dechrau ym mis Ebrill 2005 (gweler 4.1);
  • mae adolygiad wedi cychwyn ar y broses o gynllunio’r gweithlu a recriwtio, hyfforddi a chadw staff Therapi Lleferydd ac Iaith;
  •  bydd cydgysylltydd yn cael ei benodi i ddatblygu a monitro gwaith y prosiectau, a llunio canllawiau;
  • bydd Grwp Cyfeirio Allanol Cenedlaethol yn cael ei sefydlu. Bydd yn cyfarfod am y tro cyntaf ym mis Mawrth 2005. Bydd y Grwp yn monitro hynt y gwaith o gyflawni'r argymhellion a chynghori'r Cynulliad ar faterion yn ymwneud â lleferydd, iaith ac anawsterau cyfathrebu; 
  •  mae swydd Swyddog Cyswllt Cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau lleferydd ac iaith cyfrwng Cymraeg yn cael ei hysbysebu.

Goblygiadau Ariannol

Gweler 4.1  Bydd y goblygiadau ariannol yn y dyfodol yn sgil gweithredu'r argymhellion yn cael eu hystyried fel rhan o'r broses o ddatblygu'r Cynllun Gweithredu a gaiff ei ystyried gan y Grwp Cyfeirio Allanol.  


Darpariaeth Cyfrwng Cymraeg a Dwyieithog

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:
4.8 Dylai Llywodraeth y Cynulliad gyhoeddi ei hamserlen ar gyfer gweithredu argymhellion adroddiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg, 'Cydnabod Angen', er mwyn gwella'r gwasanaethau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion addysgol arbennig.  [3.69]

Derbyn

Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn seiliedig ar yr egwyddor sylfaenol y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal wrth ddarparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru. Wrth iddynt ymwneud â phlant a'u rhieni, dylai pob corff barchu unrhyw ofynion y mae'r Ddeddf yn eu gorfodi arnynt, a chadw at y polisïau yn eu Cynlluniau Iaith Gymraeg a'u Cynlluniau Addysg Gymraeg.

Mae'n rhaid i AALlau ddiwallu anghenion disgyblion AAA yn unol â dymuniad eu rhieni iddynt gael eu haddysg a'u cefnogaeth addysgol naill ai'n Cymraeg neu'n Saesneg. Mae gan rieni sydd am i'w plant dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yr hawl i fynegi'r dymuniad hwnnw o dan Ddeddf Addysg 1996. Mae'n ddyletswydd ar AALlau a Chyrff Llywodraethu i ystyried y dymuniad hwnnw. Wrth asesu AAA plentyn ni fyddai'n addas i asesu'r plentyn mewn iaith heblaw am ei ddewis iaith, sef naill ai'r Gymraeg neu'r Saesneg. Dylid cymryd camau i sicrhau bod pawb sy'n rhan o'r broses yn ymwybodol o anghenion iaith y plentyn.

Mae Grwp Llywio Cenedlaethol Cymru yn cydweithio'n agos â Phrifysgol Bangor a Bwrdd yr Iaith Gymraeg er mwyn bwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad ‘Cydnabod Angen’.  Bydd grwp gorchwyl a gorffen yn cwrdd cyn bo hir i ddatblygu Cynllun Gweithredu ar gyfer gweithredu'r argymhellion.

Mae rhai o'r argymhellion eisoes wedi cael eu cyflawni, ee sefydlu Tribiwnlys AAA Cymru a gwefan Adnoddau AAA ddwyieithog. Hefyd, mae llawer o waith ar y gweill i sicrhau bod hyfforddiant AAA ar gael yn Gymraeg, a hynny drwy'r cwrs e-ddysgu dwyieithog sy'n cael ei ddatblygu, a deunyddiau asesu eraill.

Mae gwaith yn parhau ar dreialu profion darllen cyfrwng Cymraeg a chynhyrchu corff o destunau darllen Cymraeg yn ystod gwanwyn 2005.

Un o argymhellion "Gweithio gyda'n Gilydd" oedd i gynnal adolygiad systematig ar y ddarpariaeth a'r staff cyfrwng Cymraeg. Awgrymwyd penodi swyddog cyswllt cenedlaethol i wneud gwaith ymchwil a rhoi cefnogaeth i Bwyllgor Therapi Lleferydd yr Iaith Gymraeg, gyda'r nod o hwyluso'r broses o ddatblygu a rhannu adnoddau ac arferion da ymysg holl Therapyddion Lleferydd ac Iaith Cymru.  Mae'r swydd hon yn cael ei hysbysebu ar hyn o bryd.

Goblygiadau Ariannol

I'w hystyried gan y Grwp Gorchwyl a Gorffen.  Gellir ariannu swydd y Swyddog Cyswllt Cenedlaethol o gyllidebau presennol Uned Iaith Gymraeg y GIG.


Cefnogaeth i rieni

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

4.9 Dylai Llywodraeth y Cynulliad, mewn ymgynghoriad â'r awdurdodau addysg lleol a'r sector gwirfoddol,ddiweddaru ei dogfen wybodaeth ar gyfer rhieni a gofalwyr plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig, er mwyn cynnwys gwefannau perthnasol a manylion cyswllt yr AALlau. Dylai'r ddogfen hon hefyd ddarparu gwybodaeth gyswllt ar 'siopau un stop' yr AALlau y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 4.20.    [3.24]



Derbyn mewn egwyddor

Yn 2002, diwygiodd Llywodraeth y Cynulliad ei chanllawiau ar gyfer rhieni a gofalwyr - "Anghenion Addysgol Arbennig: gwybodaeth i rieni a gofalwyr plant a phobl ifanc a all fod ag anghenion addysgol arbennig"

Datblygwyd y llyfryn ar y cyd â'r AALlau a'r sector gwirfoddol ac mae'n parhau i fod yn berthnasol i God Ymarfer Cymru ar AAA.  Mae'n rhoi cyngor ac arweiniad i rieni a gofalwyr ar bob mater yn ymwneud ag AAA a'r fframwaith asesu statudol.  Mae'n anelu at helpu rhieni i ddeall:

  • beth yw anghenion addysgol arbennig;
  •  beth i'w wneud os ydynt yn poeni bod eu plentyn yn cael anawsterau cyn mynd i'r ysgol neu yn yr ysgol;
  •  sut allant helpu eu plentyn;
  •  beth all lleoliadau addysgol cynnar ac ysgolion ei wneud i helpu eu plentyn;
  •  beth all awdurdodau addysg lleol (AALlau) a gwasanaethau eraill ei wneud i helpu eu plentyn;
  •  hawliau rhieni a phlant;
  •  prif egwyddorion Deddf Addysg 1996 a Deddf AAA ac Anabledd 2001;
  •  prif egwyddorion AAA Cod Ymarfer AAA Cymru; a 
  •  phwy i gysylltu â hwy am gyngor.

Bwriedir adolygu'r canllawiau yn 2006/2007.

Yn 2003, lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru wefan ar gyfer rhieni, "Rhwydrhieni", yn http://www.dysgu.cymru.gov.uk/rhieni/  Mae'r wefan hefyd yn rhoi gwybodaeth i rieni ar bob agwedd ar addysg a hyfforddiant yng Nghymru, gan gynnwys y cwricwlwm, asesu, dewis ysgolion, mynediad at wybodaeth a manylion y ddarpariaeth Anghenion Addysgol Arbennig.  Mae hefyd yn agor drysau i fwy o wybodaeth, gan ddarparu llu o gysylltiadau i ddogfennau ar wefan Dysgu Cymru a gwefannau ACCAC, ELWa ac eraill.


Goblygiadau Ariannol

Dim


Cefnogaeth ar gyfer y rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg fel iaith gyntaf

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

4.10 Dylai Llywodraeth y Cynulliad gomisiynu archwiliad o'r gwasanaethau AAA a ddarperir ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion addysgol arbennig nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg fel iaith gyntaf.  [3.72]



Derbyn

Bydd plant anabl, plant ag anhawster dysgu neu blant y mae eu datblygiad wedi'i oedi ac nad ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf nac yn siarad Cymraeg neu Saesneg yn rhugl, yn debygol o fod o dan anfantais fawr os na chaiff eu hanghenion addysgol arbennig eu hadnabod cyn gynted â phosibl. Dylai AALlau sicrhau y gall rhieni a'r bobl broffesiynol dan sylw ddod o hyd i bobl sy'n deall iaith arwyddion, cyfieithwyr ar y pryd a deunyddiau wedi'u cyfieithu, er mwyn rhannu pryderon yn gynnar am ymddygiad, iechyd a datblygiad y plentyn. Hwyrach y gall staff cymorth dwyieithog ac athrawon Cymraeg neu Saesneg fel iaith ychwanegol helpu a dylid sicrhau eu cymorth o'r cychwyn cyntaf. Bydd y Gwasanaethau Partneriaethau Rhieni hefyd yn ffynhonnell o gyngor a chymorth. Heb gymorth o'r fath, gall yr adnabod ac ymyrryd yn gynnar gael ei oedi neu gall fod yn aneffeithiol.

Bydd data newydd gan CYBLD yn ein galluogi ni am y tro cyntaf i asesu faint o blant AAA sydd ddim yn siarad Cymraeg na Saesneg fel iaith gyntaf. Bydd data CYBLD hefyd yn ein galluogi i asesu pa fath o angen addysgol arbennig a pha mor ddifrifol ydyw. Ar ôl yr asesiad a'r dehongliad hwn, byddwn yn ystyried yr angen i archwilio'r gwasanaethau AAA a ddarperir ar gyfer y grwp hwn.  Dylai'r wybodaeth hon fod ar gael erbyn dechrau 2005.


Goblygiadau Ariannol

Dim


Adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaeth Cymdeithasol ar Blant sydd ag Anghenion Iechyd Arbennig

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

4.11 Dylai Llywodraeth y Cynulliadgyhoeddi adroddiad ar hynt y gwaith o weithredu argymhellionperthnasol adroddiad y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasolar blant gydag anghenion addysgol arbennig; yn benodol:

  • Dylid dilysu a lledaenu'r arferion da a welir mewn addysg anghenion arbennig o amgylch Cymru;
  • Dylid croesawu'r camau i ddiwallu anghenion addysgol arbennig mewn lleoliad prif ffrwd, ond dylid rhoi mwy o bwyslais ar fonitro gwasanaethau anghenion arbennig fel nad ydynt yn cael eu glastwreiddio;
  •  Dylai'r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol i Blant gynnwys is-adranfanwl ar addysg arbennig ac anghenion iechyd;
  •  Dylid enwebu aelod o fwrdd pob bwrdd iechyd lleol yng Nghymru ifod yn gyfrifol am wasanaethau plant a hawliau plant; a
  •  Mae angen rhoi sylw brys i sefyllfa plant dan bump oed ag anghenioniechyd difrifol fel eu bod yn derbyn addysg cyn-ysgol briodol.  [3.75]

Derbyn

Gwnaed cynnydd da ar weithredu cynigion y Fframwaith Gwasanaethau Cenedlaethol ar gyfer Plant, Pobl Ifanc a Gwasanaethau Mamolaeth. Mae'r ymgynghoriad ar y Fframwaith Gwasanaethau Cenedlaethol yn dirwyn i ben ddiwedd mis Ionawr. Y nod yw cychwyn ei weithredu yn 2006, ond mae'r asiantaethau'n cael eu hannog i gychwyn gweithio nawr er mwyn cyflawni'r camau allweddol.  

Croesewir y cam i gychwyn darparu ar gyfer anghenion arbennig mewn lleoliadau prif ffrwd. Mae ansawdd yn cael ei ystyried fel rhan o'r adolygiadau penodol ar AAA ac ymgynghorwyd ar y canllawiau ar y safonau gofynnol.  Mae'r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes wedi cyhoeddi canllawiau drafft ar Addysg Gynhwysol ac wedi rhoi copi o'r Mynegai Cynhwysiant i bob ysgol yng Nghymru. Yn ogystal, mae Estyn yn cynnal adolygiadau "Gwerth Gorau" ar lefel yr AALlau, sy'n ymwneud yn benodol ag AAA a gwasanaethau cynhwysiant. Gwneir hyn yn ychwanegol at yr arolygiadau arferol.

Mae Fframwaith drafft y Gwasanaethau Cenedlaethol i Blant yn pennu'r safonau ar gyfer darparu gwasanaethau i blant, gan gynnwys plant ag anghenion arbennig o ran addysg ac iechyd. Yn ogystal â'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, mae safonau wedi'u pennu ar gyfer yr holl wasanaethau sy'n effeithio ar iechyd a lles plant, gan gynnwys addysg, tai, hamdden a thrafnidiaeth.

Cytunir â'r argymhelliad i ddynodi un aelod o bob BILl i fod yn gyfrifol am wasanaethau plant a hawliau plant, yn unol ag Adroddiad Kennedy. Rhoddir canllawiau i'r BILl yn nes ymlaen eleni.  Cynhelir ymgynghoriad ar y trefniadau manwl ar gyfer prif swyddogion ac aelodau wrth baratoi'r canllawiau.

O ran plant llai na phum mlwydd oed sydd ag anghenion difrifol a chymhleth, mae'n ddyletswydd ar yr AALl i gynnal asesiad statudol a sicrhau bod darpariaeth addas ar gael fel y nodwyd yng Nghod Ymarfer Cymru ar gyfer AAA. Bydd plant yn gymwys i gael eu hasesu o'u hail benblwydd ymlaen. Mae Llywodraeth y Cynulliad wedi cychwyn ar raglen ehangu fawr i sicrhau bod lle ar gael i bob plentyn mewn addysg gynnar o'r tymor ar ôl ei drydydd penblwydd ymlaen. Mae hyn yn cynnwys plant sydd ag anghenion arbennig.  

Seiliwyd y Cyfnod Sylfaen newydd yng Nghymru ar yr egwyddor fod pob plentyn yn cael yr un mynediad at ddarpariaeth o ansawdd yn unol â'u hanghenion, gan gynnwys plant sydd ag anawsterau penodol.  Dylai'r cwricwlwm fod yn hyblyg er mwyn rhoi cyfle i'r staff sy'n gweithio â'r plant gynllunio a darparu cwricwlwm addas ar gyfer plant sydd yng nghyfnod cynnar eu datblygiad ac ar gyfer y rhai mwy galluog.

Mae cydymffurfio â gofynion statudol AAA a Deddf Anabledd 2001 a'r Cod Ymarfer yn hollbwysig i sicrhau safonau uchel ar gyfer plant a phobl ifanc anabl, gan gynnwys camau penodol ar addysg arbennig ac anghenion iechyd.



Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

4.12 Dylai Gweinidogion y Cynulliad dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, ac Iechyd a Gwasanaeth Cymdeithasol, roi adroddiad ddwywaith y flwyddyn i'w pwyllgorau pwnc, gan fonitro ansawdd y gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion addysgol arbennig. [3.76]

Derbyn

Wrth ymateb i safbwyntiau’r Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes, y Pwyllgor Iechyd a Gwasanaeth Cymdeithasol a’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal, bydd y gwasanaethau i blant AAA yn cael eu hystyried fel rhan o agenda ehangach y Cynulliad ar gyfer plant a phobl ifanc anabl, yn ogystal â'r meysydd sy'n benodol i AAA.

Goblygiadau Ariannol

Dim

Cefnogaeth i rieni

Mae'r Pwyllgor yn argymell y canlynol:

4.13 Dylai Llywodraeth y Cynulliad ddarparu cyllid ar gyfer gwasanaeth eiriolaeth, a fydd yn annibynnol ar awdurdodau addysg lleol, er mwyn pwysleisio natur annibynnol y gwasanaeth a'i allu i gynnig cyngor cwbl ddiduedd. [3.27]

Derbyn mewn egwyddor

Mae'n rhaid i AALlau wneud trefniadau ar gyfer gwasanaethau partneriaethau rhieni. Mae'n hanfodol i rieni allu manteisio at wasanaethau o’r fath fel eu bod yn gwybod lle i gael gafael ar y wybodaeth a'r cyngor sydd ei angen arnynt. Bydd yn rhaid i'r AALlau roi gwybod i’r rhieni, ysgolion ac eraill am y gwasanaethau hyn. Hefyd, bydd yn rhaid i AALlau atgoffa rhieni am y gwasanaethau datrys anghydfodau sydd ar gael pan fo datganiad neu welliant arfaethedig yn cael ei gyhoeddi. Rhoddwyd y gofyniad hwn ar ysgwyddau’r AALlau fel rhan o Ddeddf Addysg 1996. Rydym wedi rhoi mwy o gymorth i AALlau gyflawni'r ddyletswydd hon drwy'r Gronfa Ysgolion Gwell.  

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth i holl blant a phobl ifanc Cymru mewn lleoliadau iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Rhoddir blaenoriaeth i blant mewn angen, gan gynnwys y rhai o dan ofal yr awdurdodau lleol a'r gwasanaeth iechyd neu'r rhai sydd i ffwrdd o'u cartrefi mewn lleoliadau eraill. Ym mis Gorffennaf 2003, cytunodd Llywodraeth y Cynulliad i weithredu'r pum argymhelliad yn adroddiad y Comisiynydd Plant 'Datgan Pryderon'. Mae'r papur hwn yn delio ag argymhelliad allweddol (5.7) - sefydlu Uned Eiriolaeth yn 2004 i weithio gydag isadrannau polisi'r Cynulliad, y Grwp Gorchwyl, darparwyr y gwasanaethau a'r comisiynwyr, wrth adolygu a datblygu gwasanaethau eiriolaeth y dyfodol ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru.
Nod y papur yw pennu trywydd strategol ar gyfer darparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol i blant a phobl ifanc yng Nghymru, er mwyn rhoi’r un cyfle i bob plentyn dderbyn gwasanaethau eiriolaeth o safon yng nghyd-destun iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg, ac er mwyn hyrwyddo rhagoriaeth yn y maes.

Roedd y 'Safonau Cenedlaethol ar gyfer y Gwasanaethau Eiriolaeth Plant' (2003), yn pennu polisi Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer comisiynu gwasanaethau eiriolaeth. Mae'r safonau'n pennu'r polisi ar gyfer sut i gomisiynu a darparu'r holl wasanaethau eiriolaeth, yn ogystal â fframwaith ar gyfer cynllunio, datblygu ac adolygu arferion eiriolaeth ar bob lefel. Wrth roi'r canllawiau ar waith, dylai'r awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn cadw at y safonau'n llawn.

Yn sgil cyhoeddi “Datgan Pryderon”, gwnaeth Llywodraeth y Cynulliad ymrwymiad i sicrhau bod gwasanaethau eiriolaeth ar gael i blant a phobl ifanc mewn iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg a sefydlwyd Uned Eiriolaeth ym mis Tachwedd 2004 i gydweithio â'r Grwp Gorchwyl er mwyn pennu trywydd strategol ar gyfer dyfodol y gwasanaethau eiriolaeth i blant a phobl ifanc.

I helpu gyda'r gwaith, comisiynwyd Prifysgol Caerdydd i gynnal astudiaeth fawr ar y trefniadau eiriolaeth a chwynion ar draws y sector iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg. Roedd yr astudiaeth, a gwblhawyd ym mis Rhagfyr 2004, yn ystyried sawl agwedd gan gynnwys amrywiaeth o fodelau eiriolaeth ac annibyniaeth y gwasanaeth a ddarperir. Bydd yr adroddiad yn werthfawr iawn ac yn sail ar gyfer adolygu a datblygu gwasanaeth eiriolaeth i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Yn nes ymlaen eleni, bydd y Cynulliad yn ymgynghori ar y cynigion ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth i blant a phobl ifanc yn y dyfodol. Ar hyn o bryd mae'r awdurdodau lleol yn contractio'r sector gwirfoddol i ddarparu gwasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant agored i niwed, plant mewn angen a phlant o dan ofal yr awdurdod lleol - ac efallai plant ag AAA.  

Goblygiadau Ariannol

Byddant yn cael eu hystyried pan ddaw canlyniad yr adolygiad o'r gwasanaethau eiriolaeth i law.


Cyllid

Mae'r Pwyllgor yn argymell:
4.14 Dylai Llywodraeth y Cynulliad greu cyllideb benodol ar gyfer ariannu gwasanaeth eiriolaeth annibynnol. [3.84]


Derbyn mewn egwyddor
Gweler 4.13


Mae'r Pwyllgor yn argymell:

4.15 Dylai Llywodraeth y Cynulliad gomisiynu adolygiad o'r fformiwla a ddefnyddir i ddyrannu cyllid AAA i awdurdodau addysg lleol, yn seiliedig ar archwiliad o'r angen.  [3.79]


Derbyn

Bydd adolygiad o'r fformiwla a ddefnyddir i ddyrannu cyllid AAA i Awdurdodau Addysg Lleol yn cael ei gynnal yn 2005. Mae'r Fforwm Ymgynghorol ar Gyllid eisoes wedi cytuno i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn trwy gyfrwng y Grw^p Llywio Dosbarthu (DSG).

Yn ogystal ag ystyried sut i ymgorffori amrywiadau Cyfrifiad 2001 yn y gwasanaeth addysg arbennig, mae aelodau'r DSG hefyd yn ystyried ymestyn y dangosydd poblogaeth a ddefnyddir o 5-16 oed i 0-19 oed a defnyddio pwysau geni isel.

Mae angen cynnal adolygiad llawn o'r gwasanaeth hwn a bydd hyn wedi'i nodi ar y rhaglen waith ar gyfer y flwyddyn nesaf. Mae Estyn wrthi'n edrych ar addysg arbennig mewn awdurdodau lleol, ac mae'r DSG yn bwriadu manteisio ar y gwaith hwn. Byddai arbenigwyr gwasanaeth yn cymryd rhan mewn unrhyw adolygiad o'r gwasanaeth hwn. Byddai'r adolygiad hefyd yn edrych ar ddangosyddion eraill, niferoedd disgyblion etc, a bydd yn ystyried y cysylltiad rhwng plant sy'n derbyn gofal ac anghenion arbennig.

Goblygiadau Ariannol

Caiff yr adolygiad ei gynnal a'i ariannu o gyllidebau presennol. Nid yw goblygiadau ariannol yr adolygiad yn hysbys eto.


Mae'r Pwyllgor yn argymell:

4.16 Dylai Llywodraeth y Cynulliad gynyddu'r cyllid ar gyfer hyfforddi a recriwtio staff arbenigol [3.80]


Cytuno mewn egwyddor

Bydd angen cynnal archwiliad o'r anghenion a'r bylchau yn y ddarpariaeth cyn cytuno ar unrhyw ddyraniadau ariannol. Mae llawer o waith wedi dechrau'n barod yn y maes hwn, ac rydym yn ymwybodol bod prinder staff arbenigol sy'n meddu ar gymwysterau gorfodol ym mhob awdurdod lleol, o ganlyniad i'r gwaith a wnaed eisoes ar nam ar y synhwyrau. Rydym yn cydweithio â sefydliadau addysg uwch mewn perthynas â datblygiad proffesiynol parhaus er mwyn sicrhau bod gweithlu medrus ar gael ar draws Cymru i ddiwallu anghenion plant. Rhagwelir y bydd y cwrs e-ddysgu (4.6), fel cwrs achrededig, yn helpu i ddatrys y broblem. Rydym yn gobeithio cyhoeddi cynlluniau ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus yn nes ymlaen eleni.  

Bwriedir penodi gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd, megis therapyddion lleferydd ac iaith, fel rhan o'r gwaith o gynllunio gweithlu GIG Cymru. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod bod prinder staff yn effeithio ar lawer o'r proffesiynau therapi, ac eir i'r afael â hyn trwy gynllunio'r gweithlu a chomisiynu hyfforddiant i fyfyrwyr israddedig. Bydd y strategaeth therapi sy'n cael ei llunio ar hyn o bryd yn ymdrin â darparu gwasanaethau therapi a thegwch y ddarpariaeth honno. Y Byrddau Iechyd Lleol sy'n gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau therapi, ac maent hefyd yn gyfrifol am nodi anghenion iechyd a blaenoriaethau iechyd eu poblogaethau mewn partneriaeth â chyrff lleol eraill gan gynnwys awdurdodau lleol. Dylai'r rhain fod wedi'u hymgorffori yn eu strategaethau iechyd a lles lleol, yn eu cynlluniau gweithredu Wanless lleol ac yn eu trefniadau comisiynu. Yr ymddiriedolaethau lleol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau therapi ar gyfer eu poblogaeth a chyfrifoldeb yr Ymddiriedolaeth a'r Bwrdd Iechyd Lleol yw llunio strategaethau i ddiwallu anghenion lleol.


Goblygiadau Ariannol

Bydd angen eu hystyried fel rhan o unrhyw adolygiad o'r gofynion o ran datblygiad proffesiynol parhaus. Mae hyfforddiant ychwanegol ar gyfer therapyddion yn rhan o'r strategaeth ehangach ar gyfer cynllunio'r gweithlu, ac mae wedi'i gynnwys yng nghyllidebau presennol GIG Cymru. Gweler 4.6 hefyd.

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

4.17 Mae'r Grant Hyblygrwydd Arbennig, a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Cynulliad, wedi hwyluso nifer o fentrau ar y cyd rhwng byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol. Mae'r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth y Cynulliad annog mwy o brosiectau ar y cyd drwy adolygu'r canllawiau a helpu i rannu arferion da. [3.83]

Derbyn

Gweler yr ymateb i 4.3.


Mae'r Pwyllgor yn argymell:

4.18 Dylai Llywodraeth y Cynulliad ryddhau mwy o adnoddau i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, i'w alluogi i ddatblygu bwrsarïau datblygiad proffesiynol parhaus ar adnabod anghenion addysgol arbennig. [3.85]


Gwrthod

Ers mis Gorffennaf 2001, mae'r Cyngor wedi gweinyddu Rhaglen Ariannu Datblygiad Proffesiynol Parhaus i roi cyfle i athrawon yng Nghymru ddiwallu eu hanghenion unigol o ran datblygiad proffesiynol. Nid bwriad y rhaglen yw ariannu mentrau polisi penodol, ond yn hytrach diwallu anghenion datblygu athrawon unigol (ee fel y nodwyd trwy'r broses rheoli perfformiad). Mae'r rhaglen ariannu yn rhoi cyfle i'r athrawon nodi eu hanghenion datblygu proffesiynol a rheoli'r ffordd yr ariennir y gweithgareddau hyn. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi neilltuo £13.5 miliwn hyd yn hyn i gefnogi'r rhaglen hon; bydd yn cynyddu i £2 filiwn yn 2005-06. Mae bwrsarïau ar gael i bob athro yng Nghymru pe byddant am fanteisio ar y cynnig hwn.

Y ffordd orau o ariannu hyfforddiant at ddiben penodol sy’n gysylltiedig â grwpiau ymarferwyr yw drwy arian wedi'i dargedu. Ar hyn o bryd, y ffordd fwyaf priodol o gyfeirio adnoddau ar gyfer y math yma o ddatblygiad proffesiynol parhaus yw'r Gronfa Ysgolion Gwell. Mae hon wrthi'n cael ei hadolygu a bydd argymhelliad y Pwyllgor yn cael ei ystyried yn y cyd-destun hwnnw.

Goblygiadau Ariannol

Dim, ond byddai costau sylweddol pe bai'n cael ei dderbyn a'i ariannu mewn ffordd arall - gallai gostio mwy na £0.5 miliwn (gan gynnwys cost yr hyfforddiant, athrawon cyflenwi a chostau teithio a chynhaliaeth) am ddiwrnod o hyfforddiant ar gyfer un athro o bob ysgol. Gellid ei leihau trwy hyfforddi clystyrau o ysgolion, ond nid yw'r gost yn debygol o fod yn llai na £0.4 miliwn. Pe bai'r arian yn dod o'r adnoddau presennol ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus, byddai gostyngiad cyfatebol yn yr arian fyddai ar gael ar gyfer mathau eraill o ddatblygiad proffesiynol parhaus.


Mae'r Pwyllgor yn argymell:

4.19 Dylai Llywodraeth y Cynulliad wneud darpariaeth yn y gyllideb ar gyfer y tair blynedd nesaf i ariannu argymhellion yr adroddiad hwn. [3.87]  



Derbyn mewn egwyddor

Yn sgil cylch cynllunio’r gyllideb, mae cyllidebau wedi’u pennu bellach ar gyfer 2005-06, ac mae’r cynlluniau wedi’u cyhoeddi ar gyfer 2006-07 a 2007-08. Mae llawer o'r argymhellion sy'n deillio o'r adroddiad wedi'u hystyried eisoes, ac mae rhywfaint o hyblygrwydd yn Llinellau Gwariant y Gyllideb. Bydd angen asesu'r argymhellion y mae angen ystyriaeth bellach arnynt yn erbyn blaenoriaethau eraill cyn bod modd ymrwymo'n llawn i dderbyn y gofynion o ran cyllid ychwanegol. Gellir eu hystyried mewn cylchoedd cynllunio cyllidebau yn y dyfodol.


Goblygiadau Ariannol

  • Fel a nodwyd yn yr adroddiad.

Argymhellion ar gyfer cyrff eraill

Gan fod yr argymhellion canlynol yn ymwneud â chyrff eraill y tu allan i Lywodraeth Cynulliad Cymru, nid oes modd gorfodi'r cyrff hyn i dderbyn yr argymhellion. Bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru yn tynnu eu sylw at yr argymhellion a bydd gofyn i swyddogion ymgynghori â nhw ar eu rhinweddau a pha mor ymarferol ydynt. Nodir isod sylwadau cychwynnol y Cynulliad arnynt, cyn y trafodaethau:
Awdurdodau Addysg Lleol

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

4.20 Dylai'r awdurdodau addysg lleol sefydlu 'siop un stop' ar gyfer rhieni plant a phobl ifanc sydd ag AAA, lle gallant gael gwybodaeth berthnasol. Dylai'r wybodaeth fod yn gyfredol, yn hawdd ei deall ac yn ddwyieithog; ac mewn ieithoedd lleiafrifol os yw'n briodol yn yr ardal honno. [3.25]

Bydd Deddf Addysg 1996 yn rhoi dyletswydd statudol ar AALlau i sicrhau bod rhiant unrhyw blentyn yn eu hardal sydd ag anghenion addysgol arbennig yn cael cyngor a gwybodaeth ar faterion sy'n ymwneud â'r anghenion hynny.  Rhaid iddynt gymryd camau priodol hefyd i dynnu sylw rhieni, penaethiaid, ysgolion ac unrhyw un arall sy'n gysylltiedig â'r AALlau at wasanaethau partneriaethau rhieni.

Ar hyn o bryd, darperir gwybodaeth amrywiol i rieni yn genedlaethol ac yn lleol. Mae mudiadau gwirfoddol yn cynhyrchu canllawiau a deunyddiau perthnasol ar gyfer rheini hefyd.

Ni ddylai 'siop un stop' fod yn ychwanegol at yr hyn a ddarperir eisoes ar draws AALlau, ond bydd yn eu hategu ac yn gwella'r wybodaeth a ddarperir ar hyn o bryd i rieni/gofalwyr, plant a phobl ifanc.


Mae'r Pwyllgor yn argymell:

4.21 Dylai'r awdurdodau addysg lleol ddarparu cyllid er mwyn caniatáu i ysgolion recriwtio a hyfforddi mwy o staff cymorth, er mwyn helpu i wneud defnydd mwy effeithiol o therapyddion ac athrawon AAA arbenigol.  [3.81]


Cyllidebwyd mai cyfanswm y gwariant ar gyfer y ddarpariaeth AAA gan AALlau yn 2004-05 fydd £25 miliwn. Mae hyn yn gynnydd o 8 y cant o'i gymharu â chyllideb y flwyddyn flaenorol.

Mae'r gwariant dirprwyedig i ysgolion arbennig yn cynrychioli 21 y cant o gyfanswm y gwariant AAA a gyllidebwyd yn 2003-04. Mae'r gwariant tybiannol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd yn cynrychioli 38 y cant arall o'r cyfanswm. Mae'r 41 y cant sy'n weddill yn arian sy'n cael ei gadw'n ganolog gan AALlau a thaliadau rhwng awdurdodau (heb eu dirprwyo). Mae hyn yn cymharu â 39 y cant ar gyfer y gwariant heb ei ddirprwyo yn 2002-03.

Mae gwariant ar wasanaethau i blant AAA yn cyfrif am gyfran sylweddol o'r cyllidebau a gedwir yn ganolog gan yr AALlau, a'r arian ar gyfer ysgolion unigol. Mae pob AALlau yn wynebu pwysau mawr mewn perthynas â'r elfen hon o'r gyllideb. Ar hyn o bryd, rhaid dyfarnu o leiaf 75 y cant o gyfran pob ysgol o'r gyllideb ar sail nifer y disgyblion. Fodd bynnag, er mwyn neilltuo cyllid mewn modd sy'n diwallu anghenion yr ysgolion a'r disgyblion yn fwy cywir, efallai y bydd cynlluniau ariannu'r AALlau yn pwysoli nifer y disgyblion yn ôl oedran y disgyblion neu anghenion addysgol arbennig. Efallai yr eir ati i ystyried meini prawf ychwanegol fel nifer y disgyblion nad Saesneg yw eu hiaith gyntaf neu maint a chyflwr adeiladau a thir yr ysgol.  


Mae'r Pwyllgor yn argymell:

4.22 Dylai awdurdodau addysg lleol achub ar bob cyfle i wneud rhieni yn ymwybodol o'r gefnogaeth sydd ar gael, gan gynnwys unrhyw 'siopau un stop' a allai gael eu datblygu. Dylai AALlau hefyd hysbysu'r rhieni am unrhyw newidiadau sy'n effeithio ar y gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer eu plant. [3.26]


Gweler 4.20

Os bernir bod gan blentyn neu berson ifanc anghenion addysgol arbennig, dylid cofnodi'r strategaethau a ddefnyddir i'w helpu i ddatblygu mewn cynllun addysg unigol (Cod Ymarfer AAA Cymru 2002). Dylid ymgynghori â'r rhieni ar gynnwys y Cynllun Addysg Unigol a dylent fod yn rhan o unrhyw adolygiad.

Os oes gan blentyn ddatganiad AAA, rhaid gwahodd y rhieni i unrhyw adolygiad o'r datganiad, a rhaid nodi unrhyw welliannau arfaethedig yn ffurfiol a'u hanfon atynt yn ysgrifenedig. Ar ôl gwneud hyn, mae gan rieni hawl i apelio ymhellach yn erbyn unrhyw welliannau arfaethedig, a hynny i Dribiwnlys AAA Cymru.


Byrddau Iechyd Lleol

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

4.23 Dylai'r byrddau iechyd lleol, drwy Ymddiriedolaethau'r GIG, ymgynghori â therapyddion ar unrhyw newid arfaethedig. Yn y tymor byr, mae'r Pwyllgor yn ystyried y dylai fod yn bosibl cydamseru dyddiau gweithio a gwyliau athrawon a therapyddion er mwyn cynnig gwasanaeth mwy effeithiol i blant a phobl ifanc.  [3.59]
Mae diwrnodau gwaith a gwyliau therapyddion lleferydd ac iaith a gyflogir gan y GIG yn cael eu pennu o dan reoliadau presennol Cyngor Whitley, a gaiff ei adnabod yn fuan fel Agenda ar gyfer Newid. Byddai'n rhaid cadw o fewn y rheoliadau hyn wrth wneud unrhyw newidiadau i delerau ac amodau therapyddion lleferydd ac iaith, a byddai angen cynnal trafodaethau â'r cyrff proffesiynol ac undebau perthnasol.

Colegau Hyfforddi Athrawon

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

4.24 Dylai'r colegau hyfforddi athrawon ymgorffori technegau addysgu ar gyfer adnabod anghenion arbennig yn gynnar, a darparu cefnogaeth briodol, fel rhan safonol o gwricwlwm eu cyrsiau. [3.33]


Gweler y sylwadau ar argymhelliad 4.6.


Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

4.25 Dylai Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru, wrth ddatblygu canllawiau datblygiad proffesiynol parhaus ar gyfer athrawon, gynnwys gofyniad i fod yn gyfarwydd â datblygiadau a thechnegau adnabod anghenion addysgol arbennig yn gynnar, a darparu cefnogaeth briodol. [3.34]


Nid cyfrifoldeb y Cyngor yw darparu canllawiau i athrawon ar AAA neu unrhyw agwedd arall ar ddatblygiad proffesiynol yn y modd a ddisgrifiwyd yn yr argymhelliad hwn. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gofyn i Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru lunio fframwaith ar gyfer datblygiad proffesiynol a fydd yn ganllaw i'r athrawon ar eu datblygiad proffesiynol ac yn eu helpu i nodi eu hanghenion datblygu. Felly, bydd yr argymhelliad yn cael ei ystyried yng nghyd-destun y gwaith hwn.

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

4.26 Dylai Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru gynnig bwrsarïau i sicrhau bod un athro ym mhob ysgol, neu glwstwr o ysgolion, wedi'i hyfforddi i adnabod anghenion addysgol arbennig; a bod yr hyfforddiant honno yn cael ei rhaeadru i'r holl staff dysgu. [3.20]


Gweler y sylwadau ar argymhelliad 4.18.

Estyn

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

4.27 Dylai Estyn ddatblygu cyngor pellach ar yr arferion gorau wrth adnabod AAA yn gynnar, a'i rannu drwy gyhoeddi adroddiadau ar arolygiadau ac arolygon ar ei wefan www.estyn.gov.uk .  [3.28]



“Cyflwynodd Estyn Fframwaith Arolygu Cyffredin newydd o fis Medi 2004. Mae'r fframwaith yn ei gwneud yn ofynnol i arolygwyr werthuso a rhoi adroddiad ar ansawdd y ddarpariaeth ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Wrth wneud eu penderfyniadau, mae'r arolygwyr yn ystyried i ba raddau y mae'r ysgolion a darparwyr eraill yn rhoi diagnosis effeithiol o anghenion dysgu a chymorth ychwanegol i ddiwallu anghenion unigol, gan gynnwys anghenion dysgwyr ag anableddau dysgu a/neu gorfforol, dysgwyr sydd â nam ar eu synhwyrau ac anghenion arbennig eraill.

Yn ogystal, mae Llywodraeth y Cynulliad yn comisiynu Estyn i roi cyngor ar amrywiaeth o faterion. Yn 2005-06, y bwriad yw y bydd Estyn yn cynhyrchu canllaw arfer da ar sut y mae ysgolion ac awdurdodau lleol yn mynd ati i ddiwallu anghenion pobl ifanc ag anghenion addysgol ychwanegol fel rhan o strategaethau gwella ysgolion.  

Caiff holl adroddiadau Estyn eu cyhoeddi ar wefan yr arolygiaeth a chânt eu cyhoeddi mewn copi caled hefyd, lle bo'n briodol”.

ACCAC

Mae'r Pwyllgor yn argymell:

4.28 Dylai ACCAC ddatblygu ymhellach y dulliau o asesu a monitro cyrhaeddiad plant a phobl ifanc gydag anghenion addysgol arbennig sy'n amrywio o ran cymhlethdod. [3.15]  


Yn dilyn gwaith ACCAC ar asesu plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu dwys a lluosog (PMLD), bydd gofyn i ACCAC fel rhan o'u cylch gwaith ar gyfer 2005/2006 ddatblygu cyngor pellach i ysgolion ac AALlau ar y dulliau a ddefnyddir i fesur perfformiad pob plentyn a pherson ifanc sydd ag anghenion addysgol ychwanegol.