Skip to content

Gwiriadau'r Heddlu ar Weithwyr Cymorth Ysgolion

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes
Yng ngoleuni'r achos diweddar lle cafwyd gofalwr ysgol yn euog o droseddau rhywiol yn erbyn plentyn, rwy'n achub ar y cyfle hwn i nodi cyfrifoldebau cyflogwyr o dan y fframweithiau cyfredol a hanesyddol ar gyfer gwirio addasrwydd unigolion i fod mewn swyddi lle byddant yn gweithio gyda phlant.

Cyhoeddwyd canllawiau cyntaf y Swyddfa Gymreig ym mis Gorffennaf 1986, mewn cydweithrediad â'r Swyddfa Gartref a'r Adrannau Addysg a Gwyddoniaeth a Iechyd. Roedd yn rhoi cyngor i gyflogwyr, gan gynnwys awdurdodau lleol, ar y gweithdrefnau ar gyfer cynnal archwiliadau gyda heddluoedd lleol am gefndir troseddol posibl y rheini sy'n gwneud cais i weithio gyda phlant neu sy'n symud i weithio gyda phlant. Roedd y canllawiau yn ei gwneud yn glir nad oedd y gwiriadau yn gyfyngedig i athrawon ond eu bod yn cynnwys pobl eraill sy'n gweithio yn yr ysgol ac sy'n dod i gysylltiad â phlant yn rhinwedd eu swydd (ee gofalwyr a thirmyn).  

Cafodd canllawiau wedi'u diweddaru eu cyhoeddi ym 1998 a 1993, gan ailbwysleisio'r angen i gyflogwyr geisio dod o hyd i wybodaeth am gefndir troseddol posibl unigolion sy'n dod i gysylltiad â phlant.  Y disgwyliad oedd, felly, y byddai cyflogwyr yn gwneud y gwiriadau priodol ar eu cyflogeion.

Roedd cyflogwyr hefyd yn gallu ymgynghori â rhestr y rhai a oedd wedi eu gwahardd neu eu cyfyngu gan yr Ysgrifennydd Gwladol, ac a gâi ei chadw gan yr Adran Addysg a Gwyddoniaeth ar y pryd.

Yn 2002, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad ganllawiau i awdurdodau addysg lleol ar atal pobl anaddas rhag gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae'r canllawiau hynny yn tynnu sylw at bwysigrwydd cynnal archwiliad manwl ar unrhyw un a fydd yn gweithio gyda phlant mewn sefyllfa a reoleiddir cyn eu penodi.

Mae'n ei gwneud yn ofynnol i unigolion ddatgelu manylion rhybuddiadau a chollfarnau, boed wedi'u cyflawni neu heb eu cyflawni, fel rhan o'r broses ddatgelu a ddarperir gan y Swyddfa Cofnodion Troseddol.  Mae Datgeliadau Manylach hefyd yn galluogi'r Heddlu i ddarparu manylion am ryddfarnau neu wybodaeth nad yw'n collfarnu, sy'n berthnasol i'r swydd yr ymgeisir amdani, boed yn wirfoddol neu beidio.    

Ni all unrhyw system nac unigolyn nodi na rhagweld pwy fydd yn troseddu yn y dyfodol ond gallwn gymryd camau i leihau achosion o'r fath. Mae ein canllawiau hefyd yn cydnabod nad yw collfarniad troseddol yn gwneud unigolyn yn anaddas i weithio gyda phlant neu oedolion diamddiffyn yn awtomatig.  Rhaid i gyflogwyr ddod i benderfyniad am addasrwydd unigolyn gan ystyried natur y troseddau hynny, pryd y cawsant eu cyflawni a pha mor aml, ynghyd â'u perthnasedd i'r swydd benodol.  

Nid gwiriadau o gofnodion troseddol yw'r unig ffynhonnell wybodaeth am addasrwydd unigolyn i weithio gyda phlant neu oedolion diamddiffyn.  Fel rhan o unrhyw weithdrefn benodi, dylai cyflogwyr gadarnhau hunaniaeth yr ymgeisydd; gwirio eu cymwysterau academaidd neu broffesiynol; a cheisio geirda proffesiynol ac ar eu cymeriadau oddi wrth y cyflogwr cyfredol neu'r cyflogwr diweddaraf yn ogystal â'r canolwr, ynghyd â manylion eu hanes cyflogaeth blaenorol.

Yn dilyn digwyddiadau trychinebus Soham, comisiynodd y Llywodraeth Syr Michael Bichard i gynnal ymchwiliad. Prif nod ymateb y Llywodraeth i'w argymhellion yw lleihau'n sylweddol y peryglon i blant ac oedolion diamddiffyn rhag y rheini sy'n ceisio gweithio gyda'r grwpiau hyn, a'i gwneud mor anodd â phosibl i droseddwyr ddod i gysylltiad â phlant drwy eu gwaith.

Mae Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i weithio gyda'r adrannau perthnasol yn Whitehall i weithredu ar yr ymateb i Adroddiad Bichard, gan gynnwys ystyried y ffordd fwyaf ymarferol o roi cynllun canolog ar waith i benderfynu a yw person yn anaddas i weithio gyda phlant neu oedolion diamddiffyn.  Bydd y cynllun fetio a gwahardd newydd hwn yn:-
• adeiladu ar y rhestrau presennol o'r rheini sydd wedi'u gwahardd rhag gweithio gyda phlant ac oedolion diamddiffyn;
• fwy cynhwysfawr na'r rhestrau presennol;
• tynnu ar ffynonellau gwybodaeth ehangach na'r rhestrau gwahardd presennol;
• rhagweithiol yn hytrach nag yn ymatebol;
• cael ei ddiweddaru'n barhaus; ac yn
• lleihau'r angen i gynnal gwiriadau llawn bob tro mae rhywun yn newid ei swydd.

Bydd dulliau llawer mwy effeithiol o ddelio â gwybodaeth a'i rhannu, gwell gweithdrefnau fetio a gwell prosesau dethol deallus i gyd yn cyfrannu i hyn.  

Nid yw'n bosibl gwarantu na fydd pobl a allai niweidio plant byth yn dod i gysylltiad â hwy eto.  Mae angen i'r cyhoedd a phroffesiynolion fod ar eu gwyliadwriaeth a bod yn ymwybodol o'r peryglon yn barhaus yn ogystal â sefydlu gweithdrefnau, prosesau a chodau ymddygiad proffesiynol priodol.

Ym mis Rhagfyr 2003, comisiynodd Llywodraeth y Cynulliad Gwenda Thomas AC i gadeirio adolygiad i ddiogelu plant diamddiffyn. Rydym yn disgwyl i'r grwp adolygu roi adroddiad ar hyn ddechrau'r flwyddyn nesaf.  

Byddaf i a'r Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ysgrifennu at gyflogwyr i'w hatgoffa o'u cyfrifoldebau i ddiogelu plant ac oedolion diamddiffyn, ac i'w gwahodd i gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod y gweithdrefnau sydd yn eu lle yn unol â'r canllawiau presennol ac yn ddigonol i atal unigolion anaddas rhag gweithio gyda phlant ac oedolion diamddiffyn.