Skip to content

Ymgeisio yn Uwch

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Davidson, Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol-Oes
Mae hi dros flwyddyn bellach ers i mi gyhoeddi strategaeth Llywodraeth y Cynulliad ar gyfer addysg uwch hyd 2010.  Es ati yn Ymgeisio yn Uwch i amlinellu gweledigaeth glir ar gyfer y sector a'r camau gweithredu y dylid eu cymryd i'w gwireddu.  Roedd y strategaeth yn cynnwys ymrwymiad parhaus i gynnal sector cadarn sy'n cyfrannu'n gyson at yr economi, sy'n arloesi ym maes ymchwil ac addysgu ac sy'n creu cyfleoedd dysgu sydd ar agor i bawb â'r gallu a'r brwdfrydedd i fanteisio arnynt.  

Mae Ymgeisio yn Uwch yn bolisi cynhwysfawr mewn perthynas ag addysg uwch. Mae'r Strategaeth yn cwmpasu holl feysydd cyfrifoldeb y Cynulliad ac yn cydlynu proses cydbwyso anghenion sefydliadau, myfyrwyr, yr economi a chymunedau.

Cyhoeddais y llynedd fuddsoddiad ychwanegol ar unwaith o £5 miliwn yn y sector.  Serch hynny, roeddwn yn benderfynol o sicrhau y byddai'r cyllid yn cael ei ddefnyddio'n strategol ac y byddai ein buddsoddiad yn dwyn ffrwyth.  O ganlyniad pwysleisiais y byddai'r cyllid a ddarperir i'r sector yn y dyfodol yn diwallu angen penodol a golygai hyn fod angen canolbwyntio ar adeiledd y sector. Pwysleisiais fod llwyddiant hir dymor y sector yn dibynnu ar aildrefnu a chyflwyno dulliau newydd o gydweithio. Roedd angen i ni sicrhau bod y sector yn gweithredu mor effeithlon â phosibl; bod sefydliadau yn anelu at gontractau ymchwil mawr ac yn eu hennill, contractau na allai sefydliadau eu hennill yn unigol; a bod sefydliadau yn cynnig y fargen orau i'w myfyrwyr a'u staff. Aildrefnu oedd y flaenoriaeth allweddol a chyhoeddais £3 miliwn i gefnogi cynnydd mewn perthynas â hynny.

Gallaf gyhoeddi fod llawer iawn wedi'i gyflawni mewn cyfnod byr iawn.  Yn ddiamau roedd y terfynau amser a roddwyd i'r sector yn heriol iawn ac roedd yn galonogol i'w gweld yn mynd i'r afael â hwy mewn modd cadarnhaol.  Er gwaethaf y terfynau amser tynn mae'r holl sefydliadau wedi cynhyrchu cynlluniau aildrefnu ac maent wedi cyflwyno ceisiadau ar gyfer y cyllid sydd ar gael. Hoffwn eu llongyfarch am eu cyraeddiadau. Cyhoeddodd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) ym mis Rhagfyr y llynedd ei fod wedi neilltuo cyfanswm o £5.3 miliwn i brosiectau aildrefnu - gan fanteisio i'r eithaf ar yr adnoddau ychwanegol a gyhoeddais a chan ddefnyddio eu hadnoddau personol yn ogystal.

Amrywia'r gwahanol brosiectau y mae'r Cyngor yn eu cefnogi o rai y mae uno yn ganolog iddynt i rai sy'n seiliedig ar gynigion i archwilio'r cyfleoedd i gydweithio yn y dyfodol. Mae brwdfrydedd ac egni y sefydliadau mewn perthynas â'r cyfleoedd hyn yn amlwg ymhob datblygiad.  Wrth i mi ymweld â holl sefydliadau Cymru rwyf wedi sylwi ar newid o ran eu meddylfryd, gan eu bod bellach yn anelu at gydweithio yn hytrach nag at gystadlu yn erbyn ei gilydd.

Y prosiectau allweddol y mae'r Cyngor yn eu cefnogi yw:
Yr uniad arfaethedig rhwng Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru a Phrifysgol Caerdydd;
Datblygu'r gynghrair strategol rhwng Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI) a Phrifysgol Cymru, Bangor;
Arfarnu uniad ac opsiynau eraill rhwng Prifysgol Morgannwg ac Athrofa Prifysgol Cymru, Caerdydd (UWIC);
Arfarnu opsiynau o ran cydweithrediad strategol rhwng Coleg Prifysgol Cymru Casnewydd a Phrifysgol Morgannwg;
Dadansoddi opsiwn o ran ad-drefnu pynciau rhwng Prifysgol Cymru, Abertawe ac Athrofa Addysg Uwch Abertawe;
Dadansoddiad strategol o gydweithredu o ran addysgu ac ymchwil rhwng Prifysgol Cymru, Bangor a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth;
Arfarnu opsiynau ar gyfer y dyfodol i Brifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan a Choleg y Drindod, Caerfyrddin;
Dadansoddi modelau ar gyfer cydweithrediad ac integreiddiad rhwng AU/AB.

Rwy'n awyddus i adeiladu ar y cynnydd cynnar hwn a bwriadaf wneud aildrefnu ac ehangu mynediad yn flaenoriaethau parhaus ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ni allwn ond gyflawni ein huchelgeisiau drwy fynd i'r afael â'r materion sylfaenol ar y cychwyn. Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid mewn perthynas â'r gyllideb y byddai'n fodlon ystyried dyfarnu cyllid ychwanegol o ystyried y cynnydd o ran aildrefnu yn 2002-03. Cyhoeddodd ddoe fuddsoddiad ychwanegol o £8 miliwn i gefnogi Ymgeisio yn Uwch yn 2003-04. Rydym hefyd wedi cynyddu’r costau cynnal sydd ar gael i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i’w alluogi i roi’r agenda hon ar waith mewn ffordd flaenweithgar.

Er bod y cynnydd cynnar yn galonogol nid yw'n ddigon ynddo'i hun i gyflawni'r canlyniadau dymunol ar gyfer y sector. Rydym yn awyddus i weld sefydliadau yn creu datblygiadau cadarn a hir dymor yn seiliedig ar y prosiectau cwmpasu cynnar. Rwy'n hyderus nad rhywbeth tymor byr yw aildrefnu, ac y bydd yn sail i ddatblygiadau o fewn y sector yn y dyfodol. Mae'r polisi a gynhwysir yn Ymgeisio yn Uwch yn seiliedig ar dystiolaeth ac argymhellion adolygiad y Pwyllgor Addysg a Dysgu Gydol Oes o addysg uwch. Nid oes dim byd wedi newid mewn perthynas â hyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Os na fyddwn yn mabwysiadu dulliau newydd o weithio ceir perygl mawr y bydd perfformiad sefydliadau yn dirywio ac y byddant yn methu â darparu'r gwasanaeth y mae ei angen ar ein heconomi a'n cymunedau ac y maent yn ei haeddu. Byddaf yn buddsoddi £6 miliwn yn ystod y flwyddyn nesaf ar gyfer parhau i anelu at aildrefnu, ac rwy’n barod i ystyried dyrannu cyllid ychwanegol os yw’r cynnydd a wneir yn y prosiectau aildrefnu yn ei gyfiawnhau.

Rydym o'r farn y gall sefydliadau gyfrannu llawer at fywyd trigolion Cymru.  Mae'r swyddogaeth hon yn rhan o lawer o strategaethau'r Cynulliad - o  Cymru o Blaid Arloesi i'r Cynllun Gweithredu Sgiliau. Mae ganddynt swyddogaeth allweddol o ran creu cymunedau 'delfrydol'. Dyna pam rydym yn awyddus i weld cyfleoedd addysg uwch ar agor i bawb sydd â'r brwdfrydedd a'r gallu i fanteisio arnynt. Ehangu mynediad y tu hwnt i'r grwpiau traddodiadol sy'n manteisio ar addysg uwch oedd ein nod allweddol arall y llynedd. Rydym wedi buddsoddi £2 filiwn ychwanegol yn y gwaith hwn - yn ychwanegol at y £3 miliwn y mae CCAUC eisoes wedi'i fuddsoddi.

Yn unol ag athroniaeth Ymgeisio yn Uwch, rydym wedi pennu ei bod yn ofynnol defnyddio'r cyllid ar gyfer gweithgareddau cydweithredu. Mae CCAUC wedi defnyddio'r cyllid hwnnw i gefnogi pedair partneriaeth sy'n ceisio ehangu mynediad. Mae'r partneriaethau hyn wedi galluogi rhannu arferion gorau ac maent wedi cael dylanwad llawer mwy na sefydliadau unigol nad ydynt yn cydweithio. Egwyddor allweddol o'r prosiectau yw pwyslais cynharach ar godi dyheadau a chyrhaeddiad a mynd y tu hwnt i ysgolion yn unig. Ar y cyd maent yn cynrychioli dull unigol ar gyfer Cymru gyfan o ehangu mynediad. Bydd CCAUC yn penodi cydgysylltydd ehangu mynediad cenedlaethol yn fuan at y diben hwn. Bydd yr ymgyrch cenedlaethol Ymgeisio yn Uwch Cymru a lansiwyd gennyf yn ddiweddar yn ategu gwaith y partneriaethau a'r Cyngor. Mae’r adnoddau ychwanegol a gyhoeddwyd ddoe yn cynnwys £2 filiwn yn ychwanegol ar gyfer ehangu mynediad. Bydd y cyllid hwn yn galluogi Llywodraeth y Cynulliad a Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i barhau â’r gwaith pwysig hwn a bydd yn galluogi mwy o’n pobl ifanc i fanteisio ar addysg uwch.

Pan gyhoeddais y Strategaeth hon y llynedd pwysleisiais y byddai'n rhaid i ni ganolbwyntio yn ystod y blynyddoedd cyntaf ar osod y sylfeini ar gyfer llwyddiant yn y dyfodol. Mae cyllideb y Cynulliad sydd wedi'i chyhoeddi a’r dyraniadau ychwanegol a gyhoeddwyd ddoe yn amlygu ein hymrwymiad i barhau i weithredu Ymgeisio yn Uwch, gan anelu'n uwch yn raddol.

Ers cyhoeddi Ymgeisio yn Uwch fis Mawrth y llynedd, mae polisïau ar draws y DU wedi datblygu - ac yn arbennig yn sgîl cyhoeddi strategaeth addysg uwch yr Adran Addysg a Sgiliau. Roeddwn yn falch iawn fod y weledigaeth a amlinellir yn y ddogfen honno yn gymharol debyg i'n gweledigaeth yng Nghymru a amlinellir yn Ymgeisio yn Uwch ac yn sgîl penderfyniadau o ran cyllid a wnaed yn y Cyfnod Cynllunio Cyllidebau diwethaf. Rydym yn cynnal cysylltiad agos â'n cydweithwyr yn Lloegr wrth i'w polisi ddatblygu ac rydym wrthi'n trafod datblygu'r meysydd hynny â'r posibilrwydd o groesi'r ffin. Rwyf i'n awyddus iawn i weld safonau tebyg ar draws gwahanol wledydd y DU ond rwyf hefyd eisiau cynnal yr hyblygrwydd i ddatblygu a darparu polisïau sydd wedi'u llunio i ddiwallu anghenion penodol Cymru.

Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar aildrefnu ac ehangu mynediad. Trwy gydweithio'n agos â CCAUC ac â sefydliadau addysg uwch byddwn yn parhau i geisio gwireddu ein gweledigaeth o sector AU yng Nghymru a gydnabyddir yn genedlaethol ac yn rhanbarthol ac sy'n benodol addas i Gymru. Rwy'n sicr y bydd ardderchogrwydd yn ein galluogi i wynebu'r heriau cystadleuol sydd o'n blaenau.