Skip to content

Polls Apart Cymru 2003

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Edwina Hart, Gweinidog Dros Cyllid, Llywodraeth Leol A’r Cymunedau
Er mwyn symud tuag at broses ddemocrataidd sydd o fewn cyrraedd pawb ac sy'n llai llesteiriol, yr wyf heddiw yn cyhoeddi fy mwriad i gefnogi ac ariannu'n rhannol arolwg ar fynediad i'r anabl i orsafoedd pleidleisio yn ystod etholiadau'r Cynulliad ym mis  Mai.

Bydd yr arolwg hwn yn dilyn trywydd tebyg i'r arolygon mynediad eraill o'r enw 'Polls Apart' a gwblhawyd adeg y tri Etholiad Cyffredinol Diwethaf, a lansiwyd yn wreiddiol gan Scope, y sefydliad i'r Anabl.  Cwblhawyd yr arolwg 'Polls Apart 3' yn ystod Etholiad Cyffredinol 2003, ar y cyd gyda'r Comisiwn Hawliau Anabledd yn dilyn ei sefydlu yn y flwyddyn 2000.

Er bod gorsafoedd pleidleisio yng Nghymru wedi eu cynnwys mewn ymgyrchoedd ac ymchwil berthnasol yn y gorffennol, ni chafwyd rhaglen a luniwyd yn benodol ar gyfer natur unigryw democrataidd yn y Gymru ddatganoledig o'r blaen. Byddai cynnwys y Cynulliad mewn arolwg fel hwn yn dangos ymrwymiad parhaus i'r mater.

Y bwriad yw cyhoeddi canfyddiadau'r arolwg mewn adroddiad yn dwyn y teitl 'Polls Apart Cymru 2003'.

Yr wyf yn hyderus y bydd yn dangos lefel uchel o welliant yn y mynediad i'r anabl mewn gorsafoedd pleidleisio yng Nghymru ers yr etholiadau seneddol yn 2001.  Wrth gwrs yr oedd rhoi arian i dalu am 50% o'r gost o osod rampiau dros dro gan y Cynulliad o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau Swyddogion Canlyniadau) 2002 yn gymorth yn hyn o beth.

Bydd hwn yn ddogfen bwysig wrth asesu'r meysydd hynny sydd yn parhau i angen sylw yn ogystal â sefydlu gwaelodlin ar gyfer etholiadau'r Cynulliad yn y dyfodol.

Credaf y bydd hon yn gam pwysig iawn ar gyfer amlygu mater mynediad ymhellach ac yr wyf wedi gorchymyn fy swyddogion i gysylltu â chynrychiolwyr o'r sefydliadau perthnasol er mwyn cadarnhau unrhyw drefniadau angenrheidiol.