Skip to content

Epilepsi Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jane Hutt, y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Yn ystod y tair blynedd diwethaf, bu cryn ohebu ynghylch Epilepsi Cymru a'r ffordd y cyllidir gwasanaethau epilepsi yng Nghymru. Rwyf wedi derbyn nifer o lythyrau oddi wrth Mr David Dudley, Prif Weithredwr yr Elusen, yn benodol, yn amlinellu'r hyn sy'n ddiffygiol o ran darparu gwasanaeth iechyd effeithlon yng Nghymru.

Hyd yma, mae arian Epilepsi Cymru wedi dod yn bennaf oddi wrth Fwrdd Elusennau'r Loteri Genedlaethol, ond mae hyn yn mynd i ddod i ben. Mae swyddogion wedi bod yn gohebu'n rheolaidd â chynrychiolwyr Epilepsi Cymru ac maent yn gwbl ymwybodol o'u sefyllfa bresennol.  

Mae swyddogion wedi rhoi gwybod i Epilepsi Cymru dro ar ôl tro mai cyfrifoldeb yr awdurdodau iechyd yw comisiynu pob gwasanaeth iechyd ar hyn o bryd. Rhaid iddynt asesu anghenion yr ardal leol, a chan weithio gydag Ymddiriedolaethau'r GIG, y Grwpiau Iechyd Lleol, y sector gwirfoddol ac eraill, gynllunio a blaenoriaethu gwasanaethau iechyd trwy eu Rhaglenni Gwella Iechyd er mwyn diwallu'r angen hwnnw gyda'r adnoddau sydd ar gael.  Nid yw'r rhain yn benderfyniadau hawdd, ond gan mai ganddynt hwy y mae'r wybodaeth leol, yr awdurdodau sydd yn y sefyllfa orau i flaenoriaethu'r gwasanaethau y mae eu hangen ar bobl yn eu hardal.

Mae gan Awdurdod Iechyd yr arbenigedd ym maes iechyd y cyhoedd i gynllunio ei wasanaethau gan ymgynghori â chlinigwyr ac edrych ar anghenion a blaenoriaethau ei bobl ei hun, o fewn cyfyngiadau ei gyllidebau.

Sefydlodd y Ddeddf Iechyd system newydd o fewn y GIG yn seiliedig ar bartneriaeth a chydweithio. Creodd gyfleoedd i fudiadau gwirfoddol fel Epilepsi Cymru gymryd mwy o ran yn y gwaith o gynllunio a darparu gwasanaethau ar gyfer ardaloedd lleol.  Rydym yn annog Epilepsi Cymru, cleifion, gofalwyr a'u teuluoedd i ddefnyddio'r cyfleoedd yr ydym wedi'u creu a sicrhau bod y cyrff cyfrifol yn ymwybodol o'r materion sy'n effeithio ar bobl ag epilepsi.

Rydym yn rhoi gwerth ar berthynas waith gyda'r sector gwirfoddol ac ar y mewnbwn a'r cymorth y gall cydweithwyr eu darparu wrth godi ymwybyddiaeth a gwella gwasanaethau. Mae'r Cynulliad yn llawn gefnogi amcanion Epilepsi Cymru ac mae gwaith y mudiad yn galondid mawr iddo, ar lefel leol a chenedlaethol. Mae hefyd yn cydnabod y gwaith pwysig sy'n cael ei wneud gan y rhwydwaith o grwpiau cymorth ac unigolion ar ran Epilepsi Cymru.

Fel pob mudiad gwirfoddol, mae'n gallu gwneud cais am grantiau dan y cynlluniau sy'n cael eu gweithredu gan y Cynulliad os yw'n bodloni'r meini prawf cymhwyster.  Ar hyn o bryd, mae'n derbyn grant dan adran 64.

Cyrff comisiynu ddylai sicrhau llif arian rheolaidd ar gyfer unrhyw gorff gwirfoddol a rhaid mynd ati i'w darbwyllo y dylent brynu'r gwasanaeth a ddarperir ar gyfer eu hardaloedd.    Mae'r Cynulliad yn cydnabod rôl bwysig y sector gwirfoddol o ran gwasanaeth cymorth, ac rydym yn ei annog i greu cyfleoedd newydd i bobl wrth ddarparu'r gwasanaethau hyn.

Nid Epilepsi Cymru yw'r unig grwp cymorth yng Nghymru.  Yn y De mae Grwp Epilepsi Gwent.  Yn y Gogledd mae Grwp Cymorth Epilepsi Bangor ac mae Epilepsy Action hefyd.  Nid yw'r un o'r grwpiau hyn yn cael arian oddi wrth y Cynulliad.

Mae ceisiadau mynych Epilepsi Cymru am ragor o arian oddi wrth y Cynulliad wedi'u trafod yn helaeth. Nid yw agwedd y Cynulliad tuag at arian craidd i fudiadau gwirfoddol wedi newid ond rydym bob amser wedi ceisio cadw mewn cysylltiad ag Epilepsi Cymru er mwyn gweld a oedd modd i ni gefnogi'r mudiad pan fyddai ei Grant Loteri yn dod i ben.  

Ar ôl trafod gyda David Dudley a swyddogion ym mis Medi 2002, gwnaethom gynnig ffurfiol, gyda rhai amodau, sef rhoi un swm i Epilepsi Cymru i'w gynorthwyo drwy'r problemau dros dro. Mae cymaint ag £20,000 wedi'i neilltuo i'r diben hwn. Mae hwn yn swm tebyg i'r hyn a roddais i bob un o ganolfannau Cymdeithas Gofal Canser De Cymru pan dorrwyd ar eu cyllid yn annisgwyl. Ond cyn iddo gael y grant hwn, rydym wedi gwneud cais ar i Epilepsi Cymru lunio cynllun cadarn, a fydd yn ceisio sicrhau ei fod yn goroesi yn y tymor hir ac yn sefydlog i'r dyfodol.

Cyfarfu fy swyddogion â Francis Daw, dirprwy brif weithredwr Epilepsi Cymru, i drafod y cynllun a gyflwynwyd.  Mae hwn wedi'i gymeradwyo ond trafodwyd gwelliannau y mae angen eu gwneud.

Er cydnabod mor hanfodol yw'r gwasanaethau hyn ac i roi amser i ddod o hyd i ffordd o ddatrys y broblem, rwyf wedi cytuno i ddarparu'r swm pontio unigol o £20,000 er mwyn i'r gwasanaethau allu parhau. Darparwyd yr arian hwn yn erbyn cynllun arbed a luniwyd gan Epilepsi Cymru, sy'n ceisio sicrhau, cyn belled ag y bo modd, ei fod yn datrys y broblem yn y tymor hir. Bydd cyfarfod arall yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yn y mis i drafod y cynllun terfynol. Rwy'n obeithiol y gallwn arbed cymaint o'r gwasanaethau presennol â phosib, er nad oes unrhyw sicrwydd ar hyn o bryd.