Skip to content

Datganiad ar Ganolfan Mileniwm Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Jenny Randerson, Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg
Rwyf wedi addo rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad am y datblygiadau yng Nghanolfan Mileniwm Cymru.  Oherwydd pwysau amser yn y cyfarfod llawn rwyf wedi cytuno i gyflwyno datganiad ysgrifenedig y tro hwn.

Gallwch weld drosoch eich hun y bu cryn gynnydd yn y gwaith o adeiladu'r Ganolfan.  Rwy'n falch iawn o ddweud fod y gwaith yn cadw at yr amserlen a'r gyllideb.  

Ar 21 Ionawr eleni, cafodd llechen o Ogledd Cymru ei gosod ar y safle gan Bryn Terfel.  Llechen goch y Penrhyn yw'r llechen.  Cafodd ei chloddio yn Chwarel Penrhyn ym Methesda a'i pharatoi a'i thorri yn Chwarel Blaenau Ffestiniog, Gwynedd.

Sgil-gynnyrch o'r diwydiant teilsio tai yw'r 1,000 o dunelli o lechi gaiff eu defnyddio i orchuddio 2,500 metr sgwâr o arwynebedd y Ganolfan. Daw'r llechi o chwareli Blaenau, Penrhyn a Bethesda yng nghanolbarth Gwynedd a Chwarel Corris ger Machynlleth.

Y cwmni sydd wedi cael y contract i osod y llechi ar flaen yr adeilad yw GH James Cyf - cwmni o grefftwyr llechi traddodiadol o Wynedd.

Ymhlith deunyddiau Cymreig eraill y mae:

o Pren caled Cymreig o ganolbarth Cymru ar gyfer y balconïau mewnol
o Gwydr pensaernïol wedi'i ddatblygu gan adran gwydr pensaernïol Athrofa Abertawe
o Patrymau ar bileri dur wedi'u seilio ar ffosiliau coed rhedyn a gafwyd yng ngwythiennau glo De Cymru.
o Darnau o waith gan artistiaid Cymru ar gyfer tu mewn yr adeilad.

Ar hyn o bryd mae 15 o is-gontractwyr ar y safle yn ogystal â'r prif gonractiwr.  Mae tua 259 o bobl ar y safle, ac mae 76% yn Gymry neu'n byw yng Nghymru.

Mae Syr Robert MacAlpine yn cynnal seremoni "gosod carreg gopa" ddydd Gwener, Mawrth 7.

O ran y meysydd risg a drafodwyd gan y Cynulliad yn y Cyfarfod Llawn y llynedd, mae'r cynllun Lwfansau Cyfalaf yn awr wedi'u rhoi ar waith, a chafwyd caniatâd cynllunio am faes parcio oddi ar y safle.

O ran Cromen y Celfyddydau mae trafodaethau'n parhau ynghylch y rhan hon o'r safle ac mae'r mater dal yn fasnachol sensitif felly ni allaf ddweud mwy ar hyn o bryd.   Byddaf yn sicrhau fod y mater hwn yn cael ei drafod eto mewn datganiadau yn y dyfodol.

Mae Cwmni Canolfan Mileniwm Cymru yn cwrdd â'i dargedau o ran cael cyllid o'r sectorau preifat ac elusennol.  Rwy'n parhau i gadw llygad barcud ar yr ochr hon o fusnes y Ganolfan.  Bydd Aelodau'n cofio bod yn rhaid i Gwmni Canolfan Mileniwm Cymru godi cyfanswm o £9.6 miliwn o ffynonellau preifat ac elusennol er mwyn cwblhau'r datblygiad.  Mae swyddogion hefyd wrthi'n cynnal trafodaethau â swyddogion y Ganolfan ar y Cynllun Busnes diwygiedig, a byddaf yn gwneud yn siwr bod yr wybodaeth ddiweddaraf am hyn yn cael ei chynnwys hefyd mewn datganiadau yn y dyfodol.

I gloi, rwy'n falch iawn fod Cwmni Canolfan Mileniwm Cymru wedi penodi Judith Isherwood fel Prif Weithredwr. Judith yw Cyfarwyddwr Celfyddydau Perfformio a Phrif Weithredwr dros dro Ty Opera Sydney. Mae ganddi brofiad helaeth o weithio gyda'r celfyddydau yn Awstralia.  Bydd yn dechrau ar ei gwaith ddydd Llun, Mawrth 31.