Skip to content

Datganiad ar y Celfyddydau y Tu Allan i Gaerdydd

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Alun Pugh, Y Gweinidog dros Ddiwylliant, y Gymraeg a Chwaraeon
Y diwrnod yn dilyn fy mhenodi, cynhaliais fy nghyfarfod cyntaf gyda swyddogion diwylliant, a dywedais wrthynt fod dau ddarn allweddol o wybodaeth y dylent ei wybod. Yn gyntaf, mae gennyf ddiddordeb mawr yn y brîff diwylliant. Yn ail, gwerthoedd Llafur fydd drechaf yn y weinyddiaeth hon. Gobeithiaf y bydd yr Aelodau yn gweld tystiolaeth ymarferol o’r ddau beth hyn, sy’n agos iawn at fy nghalon, yn y datganiad y prynhawn yma.

Gall y theatr ddifyrru a chodi ein hysbryd. Ar ei gorau, gall hyd yn oed herio’r ffordd y meddyliwn am y byd a’r ffordd yr edrychwn arno. Fodd bynnag, ni chaiff digon o bobl y cyfle i ymwneud â’r gelfyddyd hon. Weithiau, mae eithrio yn ymwneud â daearyddiaeth, weithiau deillia o’r teimlad anghywir ‘nad yw’r celfyddydau yn rhywbeth i mi’, ac weithiau, wrth gwrs, nid yw’r cynnyrch ar gael. Cydnabyddaf na fydd £2 filiwn ychwanegol yn datrys yr holl broblemau hyn, ond bydd o gymorth mawr i helpu i fynd i’r afael â rhai o’r rhwystrau sydd wedi cyfyngu ar fynediad ers gormod o amser. Yn gynharach, cyhoeddodd Llywodraeth y Cynulliad y byddai’n rhyddhau £2 filiwn i’w buddsoddi yn y celfyddydau y tu allan i Gaerdydd. Mae hyn yn ategu’r buddsoddiad yn y celfyddydau perfformio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Heddiw, esboniaf i ble yr aiff yr arian hwn a sut y caiff ei wario.

Mae gan Gymru rwydwaith o theatrau canolig eu maint. Caiff hyn ei atgyfnerthu cyn bo hir gan y datblygiadau newydd yng Nghasnewydd, Wrecsam a Chaernarfon. Y bore yma, yr oeddwn yn Theatr Parc a’r Dâr yn Nhreorci, i weld sut y bu iddi wella drwy fuddsoddiad. Bu Leighton Andrews yn dilyn y datblygiadau yno â diddordeb brwd. Ar wahoddiad Tamsin Dunwoody-Kneafsey, ymwelais â Theatr y Torch yn Aberdaugleddau fis diwethaf. Mae honno’n enghraifft wych o theatr dda y mae angen help arni i ddod â’i chyfleusterau i’r unfed ganrif ar hugain. Er bod gennym leoliadau perfformio o’r radd flaenaf yng Nghymru, a bod yn deg, nid yw’r darlun cyflawn yn gwbl galonogol. Mae rhai o’n theatrau yn ceisio creu argraff arwynebol dda i’w cwsmeriaid. Fodd bynnag, o edrych yn fanylach, gwelir eu bod yn heneiddio’n gyflym, nad ydynt yn strwythurol gadarn heb fawr ddim apêl i’r cyhoedd. Byddai unrhyw un o’r rhain yn lleoliad cwbl briodol i gynhadledd nesaf Ceidwadwyr Cymru. Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cymryd camau i fynd i’r afael â’r ôl-groniad o waith atgyweirio mewn theatrau. Mae sicrhau bod theatrau Cymru yn ddeniadol i’r cyhoedd, ac i’r bobl sy’n gweithio ynddynt, yn flaenoriaeth i gyngor y celfyddydau; mae gwneud Ceidwadwyr Cymru yr un mor ddeniadol yn orchwyl cwbl amhosibl yn fy marn i.

Caiff y rhan fwyaf o’r arian newydd a gyhoeddaf heddiw ei wario ar roi mwy o gynyrchiadau o safon ar lwyfannau ein theatrau canolig eu maint—gan ddatblygu theatr gynhenid Cymru a chefnogi ein hawduron, cyfarwyddwyr a pherfformwyr. Bydd gweddill yr arian yn mynd tuag at gefnogi lleoliadau bach ledled y wlad. Bydd mân berfformiadau mewn lleoliadau llai a lleoliadau anhraddodiadol, megis canolfannau cymunedol, yn nodwedd allweddol. Disgwylir i ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf fod yn flaenllaw yn y rhaglen hon. Gyda phrisiau tocynnau realistig, bron ddim teithio, ymgyrch farchnata ag iddi ffocws a chynnyrch gafaelgar, credaf y gallwn gyflwyno’r celfyddydau perfformio i gynulleidfa sydd wedi cael ei hallgáu cyn hyn.

Bwriadaf sianelu’r arian hwn drwy gyngor y celfyddydau, fel cronfa wedi’i chlustnodi. Caiff trefniadau cyflwyno adroddiadau eu sefydlu fel y gall pawb olrhain y cynnydd. Yn y flwyddyn ariannol gyntaf, byddaf yn rhyddhau £250,000, gan gynyddu’n raddol i’r dyraniad llawn o £2 filiwn. Ein diwylliant yw cyfanswm ein gweithredoedd a’n dyheadau, ein diddordebau a’r pethau sy’n agos at ein calonnau, ein gwerthoedd a’n credoau. Ymfalchïaf yn y ffaith fy mod yn gwasanaethu mewn Llywodraeth sy’n parchu rôl diwylliant yn y Gymru fodern.