Skip to content

Datganiad Llafar ar y Comisiwn ar Drefniadau Etholiadol Lleol

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Y Gweinidog dros Gyllid, Llywodraeth Leol a Chymunedau Edwina Hart
Fis Mehefin y llynedd, sefydlais Gomisiwn ar Drefniadau Etholiadol Lleol gyda chylch gwaith eang a gofynnais iddo gyflwyno adroddiad o fewn blwyddyn. Llwyddodd y comisiwn yn y dasg honno, o fewn diwrnod neu ddau, pan gyhoeddodd ei adroddiad ar 3 Gorffennaf 2002.

Bydd llawer ohonoch wedi gweld adroddiad y comisiwn ac yr wyf yn sir y byddwch yn cytuno ei fod yn fanwl. Mae’n amlwg fod y comisiynwyr wedi defnyddio eu cylch gwaith eang yn dda ac wedi ymchwilio i lawer o agweddau ar y broses etholiadol ac wedi llunio argymhellion ar hynny. Talaf deyrnged i’r Athro Eric Sunderland a’i gyd-gomisiynwyr am eu gwaith. Mae’n amlwg iddynt gymryd eu tasg o ddifrif ac iddynt fod yn drylwyr iawn yn eu gwaith.

Byddai angen deddfwriaeth yn senedd y DU ar gyfer rhai o argymhellion y comisiwn, byddai angen deddfwriaeth yn y Cynulliad ar gyfer rhai, ac ni fyddai angen ond i’r Cynulliad neu lywodraeth leol gynhyrchu cyngor neu roi arferion newydd ar waith ar gyfer eraill. Ar sawl mater, byddai yna rôl i’r Comisiwn Etholiadol.

Nid wyf yn bwriadu tynnu sylw at unrhyw argymhellion unigol ar hyn o bryd. Bwriadaf lansio ymarferiad ymgynghori eang ar yr holl argymhellion dros yr haf a dechrau’r hydref, i gynnwys gwleidyddion etholedig, llywodraeth leol, pleidiau gwleidyddol, y Comisiwn Etholiadol, cyrff cydraddoldeb, cyrff ieuenctid a chyrff cyhoeddus perthnasol, yn ogystal â gwahodd barn y cyhoedd yn gyffredinol. Ar ôl yr ymgynghori, byddaf yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ym mis Rhagfyr, gan roi crynodeb o’r safbwyntiau a dderbyniwyd i’w hystyried gan y Pwyllgor. Gallwn wedyn ystyried y ffordd ymlaen yn gynnar yn y flwyddyn newydd.

Nid wyf yn bwriadu rhoi fy marn i ar argymhellion y comisiwn heddiw. Cawn ddigon o amser i leisio barn dros y misoedd i ddod. Mae’n hanfodol inni gael cynigion terfynol a fydd yn cynyddu diddordeb a chyfranogiad mewn llywodraeth leol, fel y rhoddir i lywodraeth leol ei lle haeddiannol o ran pwysigrwydd—yng ngolwg pobl ifanc yn arbennig.