Skip to content

Datganiad ar Ymchwiliadau Heddlu De Cymru

Dolenni perthnasol

Mae gofyn bod gennych y feddalwedd gywir i weld gwybodaeth benodol ar y wefan hon. Mae'r dudalen hon yn cynnig cysylltiadau i raglenni gweld a darllen sydd ar gael am ddim.
Rhodri Morgan, Prif Weinidog Cymru
Yn dilyn damcaniaethu brwd dros y diwrnodau diwethaf ynghylch cysylltiadau â Heddlu De Cymru parthed yr ymchwiliad i Mike German, sydd, yn fy marn i, yn gwbl anghyfrannol yn rhai o’r cyfryngau, efallai y byddai’n ddefnyddiol imi nodi’r sefyllfa yn llawn ar gyfer y cofnod heddiw er mwyn rhoi diwedd ar y materion hyn.
Yr egwyddor bwysicaf ym meddwl unrhyw Weinidog gwerth ei halen mewn mater o’r fath yw osgoi unrhyw weithredu a allai ddwyn pwysau, neu y gellid ystyried ei fod yn dwyn pwysau, ar yr heddlu, naill ai i gyflymu neu ddylanwadu ar ei ymchwiliadau. Mater gwahanol yw derbyn gwybodaeth am gynnydd ymchwiliad yr heddlu, yn nhermau gwybod yr amserlen fras y maent yn gweithio tuag ati. Eglurais bob amser drwy’r ymchwiliad—ac fe’i hailadroddaf—na ellid ystyried bod unrhyw gamau a gymerais, nac y bu’n rhaid imi eu cymryd, yn rhoi pwysau ar ymchwiliadau’r heddlu nac yn ymyrryd â hwy mewn unrhyw ffordd. Derbyniais gymaint o wybodaeth ag oedd yn rhesymol am amserlen yr ymchwiliad—yn ddibynnol ar yr amod holl bwysig uchod—a hynny mewn modd priodol, cywir, cyfrifol ac yn unol â’r hyn sy’n ofynnol yn rhinwedd fy nyletswydd fel Prif Weinidog Cymru.
Dechreuodd y datblygiadau diweddaraf yn y gwallgofrwydd cyfryngol a fu ynghlwm wrth y mater hwn yr wythnos diwethaf. Deallaf i BBC Cymru ddarganfod fod Simon Hughes, AS y Democratiaid Rhyddfrydol ar gyfer Gogledd Southwark a Bermondsey wedi cysylltu â Heddlu De Cymru ar bedwar achlysur dros y misoedd diwethaf. Yr oedd BBC Cymru yn amau priodoldeb cysylltiad o’r fath, gan awgrymu mai diben a chanlyniad y cysylltiad oedd rhoi pwysau ar yr heddlu mewn rhyw ffordd. Deallaf hefyd i Simon Hughes egluro ei fod yn ymholi ynghylch cynnydd yr ymchwiliad ac na fyddai neb yn rhesymol yn dehongli ei sgyrsiau gyda’r heddlu fel rhai amhriodol neu ei fod yn ceisio rhoi pwysau arnynt mewn unrhyw ffordd. Cadarnhawyd y farn honno yn gryf gan brif gwnstabl Heddlu De Cymru mewn datganiad i BBC Cymru ddydd Gwener diwethaf, er na’i clywais.
Siaradais â Simon Hughes ar ddau achlysur—yn ddiweddar a thua adeg y Nadolig—yn dilyn ei sgyrsiau gyda’r heddlu ac yn dilyn awgrym fod ganddo wybodaeth yr oedd am ei rhannu â mi o ran cynnydd a cherrig milltir ymchwiliadau’r heddlu. Gan fod ei arbenigedd cyfreithiol lawer yn well na minnau, nid ystyriais fod siarad ag ef ynghylch y mater yn amhriodol. Nid yw fy marn wedi newid yn hynny o beth. Atgyfnerthwyd fy marn nad oedd hynny’n amhriodol yn fawr gan ddatganiad y prif gwnstabl ddydd Gwener diwethaf.
Deilliodd cyfraniad yr Ysgrifennydd Parhaol yn y mater hwn o drafodaeth rhyngddo ef a’r Cwnsler Cyffredinol—os cofiwch, yr oedd hynny naw mis yn ôl ar ddechrau mis Mehefin. Fodd bynnag, nid ystyriwyd nad oedd yn unol â disgwyliadau—pe bai cyhoeddiad yn cael ei wneud yn gymharol fuan—y dylid rhoi ychydig oriau o rybudd o gyhoeddiad o’r fath i’r Ysgrifennydd Parhaol. Nid yn unig y cytunodd y prif gwnstabl cynorthwyol ei fod yn gwbl briodol iddo roi rhybudd o’r fath, ond cynigiodd hefyd ddarparu adroddiadau ar gynnydd yr achos. Ers hynny, mae’r Ysgrifennydd Parhaol, o bryd i’w gilydd, wedi fy hysbysu’n breifat o gynnydd—er nad sylwedd—ymchwiliadau’r heddlu.
Er mwyn cyflawnder ac er mwyn osgoi’r math o ragfarn a damcaniaethu a fu’n rhan o ymdriniaeth cymaint o’r cyfryngau â’r mater hwn, ychwanegaf y ceisiodd fy swyddfa breifat, ar un achlysur, gael copi o’r datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd gan Heddlu De Cymru fis Gorffennaf diwethaf. Mae’r awgrym y dylem fod wedi cyhoeddi’r trefniant hwn rhwng Heddlu De Cymru a’r Ysgrifennydd Parhaol yn hollol wirion, o gofio ei fod yn amlwg i mi ac i unrhyw un sy’n rhesymol, pe byddai wedi’i gyhoeddi, na fyddai wedi bodoli. Ni fyddai’r prif gwnstabl cynorthwyol erioed wedi cynnig darparu’r math hwnnw o adroddiad ar gynnydd i’r Ysgrifennydd Parhaol ar adegau perthnasol pe byddai wedi’i gyhoeddi ar y pryd.
Trof yn awr at yr honiadau di-sail a ddaeth i’r amlwg o ran sylwadau Andrew Davies ar Dragon’s Eye yr wythnos diwethaf, y daethant i’r amlwg hefyd yn y sesiwn holi 30 munud yn ôl. Atebodd Andrew gwestiwn yn gofyn am sicrwydd nad oedd unrhyw un o’r weinyddiaeth wedi cysylltu â’r heddlu ynghylch eu hymchwiliadau. Gofynnwyd y cwestiwn a rhoddwyd yr ateb yng nghyd-destun cyfres o gwestiynau o ran y cyswllt a fu rhwng Simon Hughes, Aelod Seneddol a Heddlu De Cymru. Yn ystod yr holi hwn, deallaf hefyd y cyfeiriwyd at y farn a fynegwyd gan ddau wleidydd arall. Ymateb Andrew oedd na wnaeth unrhyw un o’r weinyddiaeth gysylltiad o’r fath ac y byddai’n amhriodol iddynt wneud hynny. Mae’n gwbl amlwg o’r cyd-destun fod y cwestiwn yn ymwneud â gwleidyddion, Gweinidogion yn benodol. Wrth ddweud hynny, yr oedd yn adlewyrchu’r farn y daethpwyd iddi ar wahân yn fy nghyfarfod gyda’r Ysgrifennydd Parhaol a’r Cwnsler Cyffredinol, sef y byddai’n amhriodol i aelod o’r Cabinet gysylltu â’r heddlu gan y byddai’n agored i’r math o gamddehongliad a wnaed gan BBC Cymru o ran sgyrsiau Simon Hughes gyda’r heddlu.
Yng ngoleuni’r ffeithiau a’r egwyddorion a nodwyd gennyf, mae’n amlwg ei fod yn berffaith gywir a chyfrifol cael rhyw sianel o gyfathrebu er mwyn meddu ar wybodaeth resymol o ran amserlen fras yr ymchwiliad. Fodd bynnag, pe byddai Heddlu De Cymru wedi datgan nad oeddent am sefydlu sianel o’r fath, byddwn innau a’r Ysgrifennydd Parhaol wedi derbyn hynny. Sefydlwyd y sianel honno rhwng Heddlu De Cymru a’r Ysgrifennydd Parhaol gyda’r llen dân rhyngof innau a’r Ysgrifennydd Parhaol. Drwy gydol y mater hwn bûm innau a’r Ysgrifennydd Parhaol yn benderfynol o sicrhau y cynhelir y safonau uchaf o gywirdeb ym maes bywyd cyhoeddus. Mae fy natganiad heddiw, unwaith eto, yn arwydd o’r ymroddiad hwnnw.