Skip to content

Leighton Andrews AC

Dolenni perthnasol

Yn yr adran hon o’r wefan, cewch wybodaeth am ein polisïau addysg a’r cymorth y gallwn ni ei gynnig i chi.
Ein nod yw rhoi’r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i bob plentyn.
Sut yr ydym yn gweithio er mwyn sicrhau Cymru ddwyieithog.
Leighton Andrews AC
Manylion bywgraffyddol a chyfrifoldebau'r Gweinidog dros Addysg a Sgiliau.

Etholwyd Leighton i'r Cynulliad am y tro cyntaf ym mis Mai 2003.  Yn ystod ei dymor cyntaf yr oedd yn aelod o'r Pwyllgorau Addysg, Diwylliant a Datblygu Economaidd.

Cafodd ei ailethol ym mis Mai 2007, ac ymunodd wedyn â Llywodraeth Cynulliad Cymru fel y Dirprwy Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus, gyda chyfrifoldeb arbennig dros faterion tai.  Pan ffurfiwyd y llywodraeth glymblaid Cymru’n Un ym mis Gorffennaf 2007, penodwyd Leighton yn Ddirprwy Weinidog dros Adfywio, yn gweithio yn Adran yr Economi a Thrafnidiaeth ac yn yr Adran Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol.  Yn 2009, cafodd ei benodi yn Weinidog dros Blant, Addysg a Dysgu Gydol Oes.  Ar ôl ei ailethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mai 2011, penodwyd Leighton Andrews yn Weinidog Addysg a Sgiliau.  Mae ei ddiddordebau gwleidyddol yn cynnwys addysg, yr economi, diwylliant, tai, y cyfryngau, iechyd a chynhwysiant cymdeithasol.

Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd, a bu'n astudio ym Mhrifysgol Cymru (Bangor) ac ym Mhrifysgol Sussex.  Mae’n gyn-bennaeth materion cyhoeddus y BBC, ac yr oedd yn ddarlithydd yn Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau ac Astudiaethau Diwylliannol Prifysgol Caerdydd yn ystod y flwyddyn cyn ei ethol i'r Cynulliad.  Roedd yn athro gwadd ym Mhrifysgol Westminster, ac mae wedi bod yn athro er anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd ers 2004.  Mae'n gyn-aelod o fwrdd Tai Cymru ac yr oedd yn gyd-sylfaenydd ymgyrch Ie dros Gymru yn refferendwm 1997.  Ef a sefydlodd y grŵp cynllunio ar gyfer y bleidlais “Ie” yn refferendwm 2011. Mae'n briod, gyda dau o blant.

Mae’r Gweinidog Addysg a Sgiliau yn gyfrifol am:

  • Rheoli'r ffioedd a godir ar fyfyrwyr gan sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, a threfniadau bwrsariaethau cysylltiedig;  
  • Cymorth i fyfyrwyr a dysgwyr, gan gynnwys y polisi ar ffioedd dysgu a bwrsariaethau addysg uwch;
  • Strategaeth a chynllun gweithredu 'Er Mwyn Ein Dyfodol' ar gyfer addysg uwch yng Nghymru;  
  • Ehangu cyfranogiad mewn addysg uwch;  
  • Polisi a chyllid addysg uwch, gan gynnwys noddi'r Cyngor Cyllido Addysg Uwch;
  • Cyllid refeniw chweched dosbarth, colegau addysg bellach, dysgu oedolion yn y gymuned a darparwyr dysgu seiliedig ar waith drwy'r System Gynllunio ac Ariannu Genedlaethol;    
  • Cyllid cyfalaf ar gyfer darparwyr ôl-16;  
  • Cynhwysiant mewn ysgolion, gyda phwyslais arbennig ar blant sy'n derbyn gofal, plant sy'n ffoaduriaid a phlant sy'n ceisio lloches, lleiafrifoedd ethnig, disgyblion sy'n ofalwyr, rhieni ifanc, plant teithwyr, disgyblion hoyw/deurywiol/trawsryweddol;
  • Y Fframwaith Effeithiolrwydd Ysgolion;
  • Safonau cyrhaeddiad gan ddisgyblion mewn ysgolion, gan gynnwys y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr;
  • Cymorth ar gyfer gwella ysgolion, yn arbennig drwy'r Gronfa Ysgolion Gwell a'r grant Codi Cyrhaeddiad a Safonau Addysgol Unigolion yng Nghymru;
  • Diogelu plant mewn lleoliadau addysg;  
  • Darparu bwyd a diod mewn ysgolion;  
  • Gwisg ysgol;
  • Addysg y blynyddoedd cynnar;  
  • Addysg bersonol a chymdeithasol, gan gynnwys Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang;
  • Presenoldeb yn yr ysgol, gwaharddiadau;
  • Ymddygiad disgyblion, gan gynnwys bwlio;
  • Anghenion dysgu ychwanegol, gan gynnwys anghenion disgyblion sydd ag anawsterau dysgu difrifol, cymhleth a/neu benodol, disgyblion anabl, a disgyblion abl a thalentog;
  • Pobl o bob oedran â dyslecsia;
  • Cyllid refeniw ysgolion;
  • Llywodraethu ysgolion, trefniadaeth ysgolion a derbyniadau i ysgolion;
  • Cwynion ynghylch Awdurdodau Addysg Lleol a chyrff llywodraethu ysgolion;
  • Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu mewn ysgolion;
  • Cynlluniau trochi yn y Gymraeg, a pharhad ieithyddol mewn ysgolion;
  • Comisiynu deunyddiau cyfrwng Cymraeg a dwyieithog ar gyfer yr ystafell ddosbarth (print ac electronig);
  • Cynorthwyo i ddatblygu cymwysterau cyfrwng Cymraeg;
  • Addysg cyfrwng Cymraeg a dwyieithog;
  • Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg;
  • Cymraeg i Oedolion;
  • Yr iaith Gymraeg - gan gynnwys goruchwylio a chyd-drefnu'r polisi cyffredinol ar y Gymraeg. (Mae'r Gweinidogion eraill yn gyfrifol am faterion yn ymwneud â'r Gymraeg sy'n codi yn eu meysydd polisi penodol hwy);
  • Swyddogaethau Gweinidogol sy'n deillio o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993;
  • Comisiynydd y Gymraeg;
  • Cylch gwaith Estyn;  
  • Cwricwlwm a threfniadau asesu'r Cyfnod Sylfaen;
  • Y cwricwlwm ysgol a threfniadau asesu 5-14 oed;
  • Y cwricwlwm a chymwysterau 14-19 oed (gan gynnwys TGAU a TAG Safon Uwch/Uwch Gyfrannol);  
  • Cymhwyster Bagloriaeth Cymru;  
  • Rheoleiddio statudol ar gyfer pob cymhwyster (ac eithrio addysg uwch), gan gynnwys effaith y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd ar gymwysterau allanol;
  • Cymeradwyaeth statudol ar gyfer cymwysterau a ddefnyddir yng Nghymru;
  • Ymchwil addysg a hyfforddiant;  
  • Cynllunio a gweithredu System Gynllunio a Chyllido Genedlaethol, a defnyddio buddsoddiadau strategol yn y sector ôl 16;  
  • Datblygu a gweithredu Llwybrau Dysgu 14-19;  
  • Ymestyn Hawliau ar gyfer y rheini sy'n 11-25 mlwydd oed;  
  • Y polisi ar waith ieuenctid;
  • Hyrwyddo Cymru fel lle ardderchog i addysgu yn ogystal â dysgu;
  • Hyfforddiant Cychwynnol Athrawon;  
  • Datblygu'r gweithlu addysg, gan gynnwys hyfforddiant ar arweiniad a datblygiad proffesiynol parhaus;  
  • Hyrwyddo dysgu fel gyrfa;
  • Rheoli perfformiad athrawon.
  • Trawsnewid y system addysg a hyfforddiant drwyddi draw ar gyfer pob oedran yng Nghymru;  
  • Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif;
  • Addysg Feddygol (ac eithrio hyfforddiant ôl-radd);

Mae'r Gweinidog Addysg a Sgiliau hefyd yn gyffredinol gyfrifol am y meysydd hynny sy'n ymwneud â sgiliau ac addysg uwch a restrir o dan y cyfrifoldebau sydd wedi'u dyrannu i'r Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg. Fodd bynnag, i bob pwrpas mae'r Dirprwy Weinidog yn gyfrifol o ddydd i ddydd am y swyddogaethau hyn.

Mewn rhai achosion bydd gan Ddirprwy Weinidogion berthynas â Gweinidogion eraill ynghylch materion trawsbynciol.

Ysgrifennu at Weinidogion

Cysylltwch ag Leighton Andrews drwy e-bostio: gohebiaeth.leighton.andrews@cymru.gsi.gov.uk

Rydym yn anelu at ymateb i ohebiaeth a anfonir at Weinidogion, gan gynnwys y post electronig, cyn pen 17 diwrnod gwaith.  Bydd y Gweinidogion yn ymateb i ohebiaeth ynghylch materion sy’n berthnasol i’w portffolios. Dilynwch yr eitem ‘Ysgrifennu at y Gweinidogion’ ar ochr chwith y dudalen fel bod eich gohebiaeth yn cyrraedd y Gweinidog cywir.