Skip to content

Cabinet a Gweinidogion

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Cabinet a Gweinidogion

Cabinet

O'r dudalen hon gallwch weld yr agendâu, y cofnodion a’r papurau ar gyfer pob cyfarfod o Gabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru a’i bwyllgorau ers mis Mawrth 2000.

Rôl y Cabinet

Y Cabinet yw prif gorff Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer gnweud penderfyniadau. Mae'n rhoi cyfarwyddyd i waith y sefydliad cyfan. Mae'n trafod materion sy'n galw am waith ar y cyd gan y Gweinidogion, sydd â goblygiadau strategol, neu sy'n cael effaith ariannol ar eu rhaglen waith.

Mae'r Cabinet yn mabwysiadu polisi o fod yn agored a thryloyw, gan gyhoeddi'i agendâu, ei bapurau a'i gofnodion ar y we oni bai y caiff yr wybodaeth ei heithrio rhag cael ei datgelu.

Y Cwnsler Cyffredinol

Sef prif gynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cynulliad Cymru. 

Y Dirprwy Weinidogion

Mae pedwar Dirprwy Weinidog wedi cael eu penodi i arfer swyddogaeth ar ran y Gweinidogion yn eu meysydd gwaith penodol.

Pwyllgorau'r Cabinet

Mae Pwyllgorau'r Cabinet yn cynnwys y Gweinidogion a'r Dirprwy Weinidogion perthnasol. Gellir eu sefydlu i ystyried materion polisi strategol.

Datganiadau'r Cabinet, agendâu, cofnodion a phapurau'r Cabinet a Phwyllgorau'r Cabinet

Drwy ddilyn y dolenni ar yr ochr chwith, gallwch weld yr agendâu, y cofnodion a'r papurau ar gyfer pob cyfarfod o Gabinet Llywodraeth Cynulliad Cymru a'i Bwyllgorau ers mis Mawrth 2000. Gallwch hefyd weld Datganiadau'r Cabinet.

Dolenni perthnasol

Newyddion, digwyddiadau, cyhoeddiadau a gwybodaeth arall, wedi eu trefnu fesul adran.