Skip to content

Rhwydweithiau

Dolenni perthnasol

Rhagor o wybodaeth am waith ymchwil mewn adrannau eraill o'r llywodraeth a gweinyddiaethau datganoledig eraill.
Rhwydweithiau
Os ydych yn gysylltiedig â gwaith ymchwil gymdeithasol ac wedi'ch lleoli yng Nghymru, mae nifer o rhwydweithiau ar gael efallai y gallech chi ymuno â hwy.

Rhwydwaith Dadansoddwyr Cymru Gyfan

Pwy mae'r rhwydwaith yn eu cefnogi? Ymchwilwyr a dadansoddwyr sydd â diddordeb mewn lleihau troseddu a diogelwch cymunedol.

Beth yw amcanion y rhwydwaith? Dod o hyd i ffyrdd o hwyluso trafodaethau, rhwydweithio a chyfnewid gwybodaeth rhwng ymchwilwyr a dadansoddwyr yng Nghymru. Hyrwyddo'r gwaith o gasglu a lledaenu arferion da o ran dulliau ymchwilio a chanfyddiadau.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Rhwydwaith Dadansoddwyr Cymru Gyfan

Cydweithrediad Ymchwil Clinigol Cymru

Pwy mae'r rhwydwaith yn eu cefnogi? Ymchwilwyr clinigol.

Beth yw amcanion y rhwydwaith? Cynyddu ansawdd a maint y gweithgaredd ymchwil yng Nghymru (yn enwedig y treialon ar raddfa fawr mewn mwy nag un ganolfan) a chantiatáu i Gymru gymryd mantais o'r cyfleoedd a gynigir gan Gydweithrediad Ymchwil Clinigol y DU.  

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Cydweithrediad Ymchwil Clinigol Cymrur 

Cymdeithas Ymchwil Gymdeithasol Cymru

Pwy mae'r rhwydwaith yn eu cefnogi? Ymarferwyr ymchwil gymdeithasol a hyfforddeion o bob sector yng Nghymru, ynghyd ag eraill sydd â diddordeb mewn ymchwil gymdeithasol.

Beth yw amcanion y rhwydwaith? Darparu fforwm ar gyfer pobl sy'n gweithio mewn ystod amrywiol o leoliadau er mwyn iddynt greu cysylltiadau ehangach, cyfnewid safbwyntiau a gwybodaeth a mynd i'r afael â materion sy'n peri pryder yn gyffredinol.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Cymdeithas Ymchwil Gymdeithasol Cymru 

Gwasanaeth Gwerthuso y Deyrnas Unedig

Pwy mae'r rhwydwaith yn eu cefnogi? Ymchwilwyr o bob sector sydd â diddordeb mewn gwerthuso  

Beth yw amcanion y rhwydwaith? Hyrwyddo a gwella'r theori, yr ymarfer, y ddealltwriaeth a'r defnydd o brosesau gwerthuso a'i gyfraniad i wybodaeth gyhoeddus. Y mae hefyd yn hyrwyddo trafodaethau a dadleuon ar draws y sectorau ac ar draws y disgyblaethau.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Rhwydweithau cenedlaethol a rhanbarthol UKES

Rhwydwaith Ymchwil Sector Gwirfoddol Cymru Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Pwy mae'r rhwydwaith yn eu cefnogi? Pobl sy'n gysylltiedig neu sydd â diddordeb mewn ymchwil yn y sector gwirfoddol neu am y sector gwirfoddol.

Beth yw amcanion y rhwydwaith? Cefnogi a datblygu gwaith ymchwil gan y trydydd sector; mynd i'r afael ag 'ynysu ymchwilwyr' drwy alluogi ymchwilwyr i rannu gwybodaeth ynghyd â diweddaru ymchwilwyr mewn perthynas â'r wybodaeth ddiweddaraf o ran y fethodoleg.  

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Rhwydwaith Ymchwil Sector Gwirfoddol Cymru

Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD)

Y mae WISERD yn fenter cydweithrediad rhwng Prifysgolion Aberystwyth, Bangor, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe.

Amcan strategol WISERD yw sefydlu ei hun fel sefydliad ymchwil cynaliadwy wedi’u hadeiladu ar ymrwymiad gweithredol staff gwyddoniaeth gymdeithasol ar draws sector addysg uwch Cymru ac ymglymiad set cymhleth o ddefnyddwyr/gynulleidfa yn y sectorau cyhoeddus a preifat.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i: Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru