Skip to content

Arolwg Sgiliau Cyflogwyr y DU, 2011

Mae'r arolwg yn darparu gwybodaeth allweddol ynghylch y galw am sgiliau ymhlith cyflogwyr a’r buddsoddiad sydd ei angen mewn sgiliau.

Cynhyrchwyd yr arolwg gan Gomisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau. Fel rhan o’r arolwg, holwyd 87,572 sefydliad  ledled y DU ac o’r rheini roedd 6,012 ohonynt yn sefydliadau o Gymru. O ganlyniad, roedd modd dadansoddi a chymharu ychydig rhwng y pedair gwlad sy’n ffurfio’r DU a hynny o ran yr heriau sy’n wynebu cyflogwyr wrth ymwneud â sgiliau ac o ran yr hyfforddiant y maent yn eu cyflawni. Mae’r arolwg yn nodi proffil, strwythur ac ychydig o brif nodweddion poblogaeth cyflogwyr y DU.

Mae’r adroddiad ar yr arolwg yn cwmpasu/cynnwys:

  • Recriwtio pobl sy’n gadael y byd addysg a’r farn ynghylch pa mor barod ydynt i ymuno â’r byd gwaith;
  • Y gwaith a wna cyflogwyr wrth iddynt gyflogi a sefyllfa’r prinder yn y farchnad lafur, yr achosion dros y prinder a’r effaith y mae’n ei gael ar gyflogwyr;
  • Y bylchau mewn sgiliau a’r defnydd annigonol o sgiliau o fewn sefydliadau;
  • Manylion ar faint o hyfforddiant y mae cyflogwyr yn ei gynnig a natur yr hyfforddiant hwnnw wrth iddynt ddatblygu’r gweithlu, a faint maen nhw’n buddsoddi i’r perwyl hynny.

Disgwylir y bydd Adroddiad ar gyfer Cymru yn cael ei gyhoeddi ym mis Mehefin 2012. Bydd yr adroddiad hwnnw’n rhoi dadansoddiad manylach ac yn cymharu’r sefyllfa rhwng Cymru a gweddill y DU.

Gwefan Comisiwn y DU dros Gyflogaeth a Sgiliau: Arolwg Sgiliau Cyflogwyr y DU, 2011

UK Commission for Employment and Skills website: Employer Skills Survey 2013 - Interviews underway