Skip to content

Amdanom ni

Dolenni perthnasol

Mae ein hadrannau wedi'u rhoi mewn grwpiau gyda'i gilydd mewn meysydd pwnc ac fe'u gelwir yn Gyfarwyddiaethau.
Ffeithiau am ni ac ein gwlad.
Cabinet Llwodraeth Cymru
Llywodraeth Cymru yw llywodraeth ddatganoledig Cymru. Rydym yn gweithio i wella bywydau pobl yng Nghymru a gwneud ein gwlad yn lle gwell i fyw a gweithio.

Mae Llywodraeth Cymru'n cynnwys:

  • Y Prif Weinidog
  • Gweinidogion Cymru
  • Y Cwnsler Cyffredinol
  • Y Dirprwy Weinidogion.

Cânt eu cefnogi gan Weision Sifil sy'n gweithio yn y meysydd datganoledig. Mae'r rhain yn cynnwys meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus, fel iechyd, addysg a'r amgylchedd.

Ein nod yw bod yn agored ac ymateb i anghenion dinasyddion a chymunedau, a'n llywodraeth yw un o'r prin rai yn y byd sy'n cyhoeddi cofnodion a phapurau'r Cabinet. Mae cyfrifoldeb wedi'i ddatganoli ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd allweddol o fywyd cyhoeddus, gan gynnwys iechyd, addysg a'r amgylchedd.

Gyda swyddfeydd newydd ledled Cymru, gan gynnwys Merthyr Tudful, Aberystwyth a Chyffordd Llandudno, rydym yn dod yn agosach at y bobl rydym yn eu gwasanaethu.

Ar y tudalennau hyn, mae rhagor o wybodaeth am:

  • eich Llywodraeth Cymru
  • ei Gweinidogion
  • y sefydliad a'r staff, a
  • sut mae pethau wedi newid yng Nghymru ers datganoli ym 1999.